Afon Llwyd
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Torfaen, Casnewydd |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 7 metr |
| Cyfesurynnau | 51.6181°N 2.9533°W |
| Aber | Afon Wysg |
![]() | |
Afon yn ne-ddwyrain Cymru, yn llifo i mewn i Afon Wysg yw Afon Llwyd.
Ceir tarddle'r afon ar y llethrau i'r gogledd o dref Blaenafon. Mae'n llifo tua'r de heibio Cwmafon ac Abersychan, yna'n troi i'r de-ddwyrain trwy dref Pont-y-pŵl, yna heibio Cwmbrân, Croesyceiliog, Llantarnam a Pont-hir, cyn cyrraedd Afon Wysg ger Caerllion.

