Glangrwyne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn ne Powys yw Glangrwyne (Seisnigiad: Glangrwyney). Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain ardal Brycheiniog, rhwng Crucywel a'r Fenni, bron am y ffin rhwng Powys a Sir Fynwy. Saif ar y briffordd A40. Y pentref agosaf yw Cwrt-y-gollen, llai na milltir i'r gogledd-orllewin. Mae'n rhan o gymuned Dyffryn Grwyne.

Enwir y pentref ar ôl Afon Grwyne Fawr. O Aberhonddu llifa Afon Wysg i gyfeiriad y de-ddwyrain drwy Llangynidr a phasio Crucywel i gyrraedd Glangrwyne, lle mae Afon Grwyne Fawr yn ymuno â hi, ac mae'n llifo yn ei blaen o Langrwyne i'r Fenni.

Gorwedd y pentref ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wrth droed y Mynydd Du sy'n codi i'r gogledd.


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.