Pont Gludo Casnewydd
| Math | pont gludo |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 12 Medi 1906 |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Trefonnen, Pilgwenlli, Llyswyry |
| Sir | Casnewydd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.57064°N 2.98556°W |
| Hyd | 197 metr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Pont gludo ar draws Afon Wysg yn ninas Casnewydd yn ne Cymru yw Pont Gludo Casnewydd. Hon yw'r unig bont gludo yng Nghymru; dim ond tuag ugain a adeiladwyd trwy'r byd a dim ond wyth o'r rhain sy'n parhau i gael eu defnyddio.
Fe'i cynlluniwyd gan y peiriannydd o Ffrancwr Ferdinand Arnodin, ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ar 12 Medi 1906. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn platfform neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Defnyddiwyd y math yma o bont gan fod glannau'r afon yn isel yma, a bod angen i'r bont ei hun fod yn uchel er mwyn caniatau i longau fynd oddi tani.
Caewyd y bont yn 1985, a gwariwyd £3 miliwn ar ei hadfer. Ail-agorodd yn 1995 ac mae'n parhau i gael ei defnyddio. Gall y platfform gludo 6 char a thua 120 o deithwyr.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Defnyddiwyd y bont ar gyfer rhai golygfeydd yn y ffilm Tiger Bay ym 1959. Yn ddiweddarach, mae artistiaid gan gynnwys Eädyth[1] a 60 Ft. Dolls wedi perfformio ar y bont.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Eädyth: Y Bont Gludo", AM: Gŵyl Newydd; adalwyd 14 Chwefror 2025
