Tiger Bay (ffilm 1959)
Gwedd
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | J. Lee Thompson |
Cynhyrchydd | John Hawkesworth |
Ysgrifennwr | John Hawkesworth Shelley Smith |
Serennu | Hayley Mills John Mills Horst Buchholz |
Cerddoriaeth | Laurie Johnson |
Sinematograffeg | Eric Cross |
Golygydd | Sidney Hayers |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Rank Organisation |
Amser rhedeg | 103 munud |
Gwlad | Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Ffilm o'r Deyrnas Unedig yw Tiger Bay (1959) sy'n serennu John Mills, ei ferch Hayley Mills yn ei rôl actio gyntaf, a Horst Buchholz.
Fe'i ffilmiwyd yn ardal Tiger Bay, Caerdydd, ac yng Nghasnewydd (ac yn benodol Pont Gludo Casnewydd, 12 milltir o Gaerdydd), a gwelir nifer o olygfeydd didwyll o ddiwylliant stryd y plant a diwylliant stryd pobl croenddu'r cyfnod. Ceir nifer o saethiadau hefyd o'r dociau, golygfeydd mewn tafarndai go iawn a'r wlad sy'n amgylchynnu'r ardal.