Llyn Wysg
Gwedd
| Math | cronfa ddŵr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Myddfai, Llywel |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.9444°N 3.7139°W |
| Rheolir gan | Dŵr Cymru |
![]() | |
Cronfa ddŵr yn Sir Gaerfyrddin yn ne Cymru yw Llyn Wysg, hefyd Cronfa Wysg (Saesneg: Usk Reservoir). Saif yng ngogledd y Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n agos at darddle Afon Wysg, 1,050 troedfedd (320 m) uwch lefel y môr. Saif rhwng Trecastell a Llanddeusant, saith milltir i'r gorllewin o Bontsenni.
Gorffennwyd adeiladu'r argae yn 1955, gan greu llyn gydag arwynebedd o 280 km2.
