Sgwrs:Aber

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Afon Honddu?[golygu cod]

Cyfeirir at yr Afon Honddu yn yr erthygl - mae gen i ryw gof mai'r Afon Hoddni yw enw cywir yr afon honno, ond dw i ddim digon sicr i'w newid. Unrhyw un yn gwybod i sicrwydd? Jac y jwc 13:31, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Mewn gwirionedd mae'r ddwy ffurf yn gywir. Hoddni yw'r ffurf gynharaf a cheir engreifftiau o 'Aberhoddni' am Aberhonddu hefyd. Mae'r enghraifft gynharaf o'r ffurf Hoddni yn dyddio i'r 17eg ganrif (Edward Lhuyd). Mae R. J. Thomas yn rhestru'r enghreifftiau hyn - a sawl un arall - dan yr enw 'Honddu' yn ei gyfrol Enwau afonydd a nentydd Cymru. Yn ei ddisgrifiad o gwrs yr afon mae o'n defnyddio Honddu hefyd. Anatiomaros 16:01, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]