Rhaeadr Fawr
Gwedd
| Math | rhaeadr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Aber |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.2105°N 3.995°W |
![]() | |
Rhaeadr yn y Carneddau rhyw ddwy filltir i'r de o bentref Abergwyngregyn, Gwynedd, yw'r Rhaeadr Fawr neu Rhaeadr Aber ar lafar yn lleol (Saesneg: Aber Falls).
Ffurfir y rhaeadr wrth i Afon Goch ddisgyn tua 120 troedfedd dros glogwyn o graig igneaidd. O waelod y rhaear ymlaen, gelwir yr afon yn afon Rhaeadr-fawr, yna yn Afon Aber wedi i Afon Anafon ymuno â hi yn is i lawr.
Ceir llwybr i'r rhaeadr o Bont Newydd, ac mae Llwybr Gogledd Cymru yn arwain dros y bont islaw'r rhaeadr.
