Llwybr Arfordir Gogledd Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llwybr Gogledd Cymru)
Neidio i: llywio, chwilio
Logo swyddogol
Y llwybr 60 milltir (97 km)

Mae Llwybr Arfordir Gogledd Cymru (neu'n fyr: Llwybr y Gogledd) yn llwybr pellter hir o tua 60 milltir sy'n rhedeg ar hyd rhan o arfordir Gogledd Cymru, neu'n agos iddo, rhwng Glannau Dyfrdwy yn y dwyrain a Llanfairfechan yn y gorllewin. Mae'n un o wyth llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]

Mae'r llwybr yn dilyn llwybrau arfordirol a fodolai eisoes ac mae'n cael ei nodi gan arwyddion sy'n dwyn ei logo swyddogol. Cynhyrchir taflen gyda wyth fap (1:25000) i ddangos y llwybr a llefydd o ddiddordeb arno.

Does dim rhaid cerdded y llwybr cyfan ac mae nifer o bobl yn dewis cerdded rhannau unigol ohono. Mae'r rhannau mwyaf poblogaidd yn cynnwys y llwybr rhwng Prestatyn a Diserth, ar hyd hen drac rheilffordd, Pen y Gogarth a Rhiwledyn ger Llandudno, Mynydd y Dref a'i hen fryngaer Caer Seion rhwng Conwy a Bwlch Sychnant, ucheldiroedd Penmaenmawr, a Rhaeadr Abergwyngregin.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Llwybrau lleol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:

  1. Taith Bryn Euryn. Saif y bryncyn calchfaen hwn (Bryn Euryn) fymryn i'r gorllewin o Landrillo-yn-Rhos, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o Fae Colwyn; cyfeiriad grid SH832798. Mae'n fryn 131 medr o uchder a goronir gan fryngaer. Mae rhan ohono'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.[2] Mae cerddwyr ar y daith hon yn pasio Llys Euryn, safle llys canoloesol a fu'n perthyn i ystad Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr.[2] Caiff y llwybr a'r bryn eu rheoli a'u cadw gan Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Conwy.[2] Ceir dau lwybr: y naill yn cylchdroi'r copa (1 filltir o hyd) a'r llall o fewn y goedwig (1.5 filltir). Mae 26 math gwahanol o löyn byw wedi'u cofnodi ar fryn Euryn.
  2. Taith Caerhun. Cychwyn y daith hawdd hon ydy Tal-y-Cafn, ar lannau Afon Conwy. Saif gweddillion Canovium ar y ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon) ac mae defnyddiwr y llwybr yn ei basio o fewn tafliad carreg. Eir trwy Pontwgan a phentref Tyn-y-Groes ac mae'r olygfa'n cynnwys ysblander Dyffryn Conwy ac Eryri yn y pellter. Tair milltir yw ei hyd gydag estyniad 1.5 milltir i'r cerddwr diflino. Cychwyn y daith yw Tal-y-Cafn (SH788717).
  3. Taith i Ben y Gogarth. Ceir 3 taith o Landudno i gopa Pen y Gogarth ac mae pob un wedi'u harwyddo'n glir. Ar y daith gellir gweld y dref, y bae, y Fenai ac Eryri. Mae'r dair yn cynnwys rhannau eithaf serth. Mae "Llwybr Gerddi Heulfre" (1 filltir) yn cymryd tuag awr i'w cherdded. Yr un hyd yw'r "Llwybr Igam Ogam", eithr ei bod yn cymryd hanner awr yn hwy. 1.5 milltir yw hyd "Llwybr y Dyffryn" ac fe gymrith tua'r un hyd - awr a hanner.[3]

Cyfeiriadu[golygu | golygu cod y dudalen]