Cromlechi Dyffryn Ardudwy

Oddi ar Wicipedia
Cromlechi Dyffryn Ardudwy
Mathsiambr gladdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.784603°N 4.093643°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME003 Edit this on Wikidata

Pâr o siambrau claddu (cromlechi) gynhanesyddol ar gyrion Dyffryn Ardudwy, Gwynedd, yw Cromlechi Dyffryn Ardudwy. Fe'u gelwir hefyd yn Goetan Arthur (mae dwy arall o'r un enw yng Nghymru) a Cherrig Arthur. Fe'u lleolir y tu ôl i Ysgol Dyffryn Ardudwy. "Beddrod Porth" yw enw'r math hwn o gromlech a dim ond yn Iwerddon, Cernyw, Ynys Môn ac ym Meirionnydd y maent i'w cael.

Adeiladwyd y beddrodau yn y safle claddu Neolithig hwn (Oes Newydd y Cerrig) mewn dau gyfnod gwahanol. Y siambr lai o faint i’r gorllewin oedd y cyntaf. Roedd y ddolmen (neu gromlech) hon yn cynnwys dau borthfaen a maen rhwystro uchel gyda maen capan yn gorffwys ar ei ben, ac fe’i gorchuddiwyd â charnedd fechan, o fras siâp cylch. Nifer o genedlaethau’n ddiweddarach, adeiladwyd y beddrod mwy o faint i’r dwyrain ac fe’i claddwyd o dan garnedd siâp lletem tua 100 troedfedd (30 m) o hyd, a oedd yn amgáu ei gymydog. Yn agored i’r awyr bellach, mae’r ddau feddrod mewn cyflwr eithriadol o dda, a’r meini capan yn dal i orffwys yn ddiogel ar eu meini unionsyth.[1]

Y ddwy gromlech
Un o'r cromlechi

Mae'r safle yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir ei gyrraedd yn rhwydd o'r pentref trwy ddilyn yr arwyddbyst.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Siambr Gladdu Duffryn Ardudwy", Gwefan Cadw; adalwyd 20 Rhagfyr 2021