Richard Humphreys, Dyffryn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Humphreys, Dyffryn
Richd. Humphreys, Dyffryn.jpg
Ganwyd Mehefin 1790 Edit this on Wikidata
Dyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Chwefror 1863 Edit this on Wikidata (72 oed)
Pennal Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd Y Parch. Richard Humphreys (Mehefin 179015 Chwefror 1863) yn un o weinidogion cynnar y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Humphreys ar fferm Gwern y Cynyddion, Dyffryn Ardudwy, Sir Feirionnydd yn blentyn i Humphrey ap Richard ap Humphrey a Jennet Griffith, Taltreuddyn Fawr, Dyffryn. Pan oedd yn blentyn ifanc symudodd y teulu i fferm gyfagos, Y Faeldref, Dyffryn. [2] Bu farw ei fam pan oedd Richard tua 7 mlwydd oed a'i dad pan oedd yn 15 mlwydd oed.[3] Cafodd rhywfaint o addysg yn Ysgol yr Amwythig, lle dysgodd siarad a darllen ac ysgrifennu Saesneg. [4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan fu farw ei dad cymerodd Humphreys yr orchwyl o amaethu'r Faeldref ac o fod yn benteulu ar ei ddau frawd a thair chwaer. Er bod rhieni Humphreys yn aelodau o gynulleidfa'r Methodistiaid yn Nyffryn Ardudwy, nid oeddynt yn mynd a'r plant i'r cyrddau gyda nhw a bu'r ddau farw cyn bod Richard ddiogon hen i gael ei gyflwyno i'r seiat. [5] Gan hynny, er ei fod wedi ei fagu ar aelwyd grefyddol nid oedd yn gyfrif ei hun yn Gristion. Pan oedd tua 21 dechreuodd petruso am gwestiynau ysbrydol. Dechreuodd mynychu capel Annibynnol y Cytiau oedd tua hanner ffordd rhwng Abermaw a'r Bontddu. Ar ôl blwyddyn o fynd i'r Cytiau penderfynodd ceisio cael ei gyflwyno i seiat y Methodistiaid yn y Dyffryn. Galwodd ar ei ewythr Griffith Richard, un o flaenoriaid a sylfaenwyr yr achos, [6] gan fwriadu gofyn a chai fynychu'r seiat gydag ef. Ond gan nad oedd ei ewythr yn gallu mynychu y tro hwnnw, collodd yr hyder i ofyn ail waith. Clywodd William Richard, blaenor yng Nghapel MC Pentre Gwynfryn am ei gyfyng gyngor ac addawodd mynd ag ef i'r cyfarfod nesaf. Cadwodd at ei addewid a mynd a Richard i'r cyfarfod, ond nid aeth i mewn gydag ef, dim ond ei ddanfon i mewn a'i gadel i gyflwyno'i hun i'r achos ac egluro troso'i hun pam ei fod am gael ei dderbyn yn aelod. [7]

Ar ôl ychydig flynyddoedd wedi ei dderbyn i seiat y Dyffryn penderfynodd y gynulleidfa bod angen ethol blaenor newydd. Er nad oedd wedi mynegi awydd am y swydd penderfyniad y gynulleidfa oedd ethol Humphreys yn flaenor. Gan fod yr achos yn y Dyffryn ar y pryd yn is-gangen o daith bregethu Pentre Gwynfryn ac Abermaw ni fyddai gweinidog na phregethwr yn bresennol yn aml, yn hytrach cynhaliwyd cyfarfodydd gweddi yno gyda'r blaenoriaid yn arwain y gwasanaeth. Gan fod Richard Humphreys yn dangos ysbrydolrwydd wrth weddïo a gwybodaeth ysgrythurol eang wrth egluro ystyr y penodau o'r Beibl oedd yn cael eu trafod yn y cyfarfodydd rhoddwyd anogaeth iddo i ddechrau pregethu. Er gwaethaf cael ei bwyso gan weinidogion, blaenoriaid ac aelodau cyffredin i ddod yn bregethwr gwrthododd ildio i'w perswâd, yn bennaf gan na chredai y byddo'n ddigon dda. Yn y pen draw penderfynodd y cyfarfod misol i weithredu yn uniongyrchol a'i godi o'n bregethwr heb iddo wneud cais. Dechreuodd pregethu ym 1819.

Wedi bod yn bregethwr lleyg am 13 mlynedd bu nifer o selogion y Methodistiaid yn nwyrain Meirionnydd yn awyddus i Humphreys gael ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Un o'r mesurau prawf ar gyfer cael derbyniad i'r weinidogaeth oedd (ac yw) gwneud cyfres o "bregethau prawf" lle bydd yr ymgeisydd yn pregethu i gynulleidfaoedd diarth er mwyn iddynt roi eu barn ar ei ddoniau a'i uniongrededd. Megis yn achos ei godi'n blaenor a phregethwr cynorthwyol gwnaed trefniadau iddo sefyll ei bregethau prawf heb iddo ofyn am y cyfle. Trefnwyd iddo fynd ar daith bregethu gyda'r Parch Richard Jones o'r Wern, yn gwbl ddiarwybod iddo y byddai'r pregethau roedd yn eu traddodi ar y daith yn bregethau prawf ar gyfer ei ordeinio'n weinidog. Ar ôl i'r daith dod i ben rhoddodd Jones y Wern gwybod i Gymanfa'r Methodistiaid bod Humphreys wedi cyflawni'r holl feini prawf ran, dawn ysbryd a dysgeidiaeth i gael ei dderbyn i'r weinidogaeth, ac yna rhoddodd y Gymanfa gwybod i Humphreys ei fod wedi ei dderbyn. Cafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth yn Sasiwn y Bala 1833. [8]

Oherwydd ei ddyletswyddau amaethyddol ac, am gyfnod yn cadw siop ni dderbyniodd Humphreys alwad i fod yn weinidog ffurfiol ar gapel. Ond fe lafuriodd yn galed yng ngwaith y weinidogaeth yn nosbarth Y Dyffryn o ardal Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionnydd, ardal oedd yn cynnwys naw capel ac ymestyn o'r Abermaw i Dalsarnau.

Yn ei weinidogaeth bu Humphreys yn nodedig am ei gyfraniad a chefnogaeth i symudiadau newydd ym mywyd ysbrydol y genedl. Cyn i Benjamin Chidlaw cyflwyno'r symudiad Americanaidd o gymdeithasau dirwest ac arwyddo ardystiadau dirwest i'r anghydffurfwyr Cymreig, roedd Humphreys eisoes wedi bod yn llwyr ymwrthodwr am flynyddoedd. Pan ddechreuodd y mudiad dirwest yng Nghymru daeth Humphreys yn un o'i gefnogwyr mwyaf brwd. [9]

Fel un o'r ychydig o weision fferm ardal y Dyffryn oedd wedi cael addysg safonol da, roedd yn gefnogwr brwd i'r syniad o sicrhau cyfleoedd i'r werin bobl cael addysg. Roedd yn gefnogwr i achos yr ysgol Sul, ac yn arbennig o gefnogol i sicrhau bod pobl mewn oed oedd wedi methu cyfleoedd addysg yn eu hieuenctid yn manteisio ar ddarpariaeth yr ysgol Sul. Roedd yn godwr arian diflino i athrofeydd ei enwad oedd yn darparu sylfaen addysg i ddarpar weinidogion ei enwad. Oherwydd ei gefnogaeth i achos addysg cafodd ei wahoddwyd i Lundain gan Syr Hugh Owen ym 1854 i drafod y posibilrwydd o gael prifysgol i Gymru. [1]

Fel nifer o weinidogion roedd y gwaith o adeiladu, adnewyddu ac ehangu capeli yn rhan bwysig o'i waith. Roedd y rhan fwyaf o weinidogion yn prysur godi arian i dalu ymgymerwyr i wneud y fath gwaith. Ond fel un oedd wedi arfer a gwaith llaw ymarferol ar ei fferm, byddai Humphreys yn ymgymryd â rhywfaint o'r gwaith caib a rhaw ei hun. Byddai'n paratoi cynlluniau ac yn cynorthwyo gyda'r gwaith i glirio tir y gwaith adeiladu a'r gwaith coed. [10]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 8 Chwefror 1822 priododd Humphreys ag Anne, merch y Capten William Griffith o'r Abermaw cawsant dwy ferch. Bu farw Anne ym 1852. Ym 1858 priododd am yr ail waith ag Elizabeth Evans, gweddw Robert Evans fferm Gwerniago, Pennal bu iddynt un ferch. [11] Wedi'r briodas symudodd Humphreys i fyw i Bennal ac yno arhosodd am weddill ei ddyddiau.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Humphreys yn dioddef yn arw gyda broncitis tua diwedd ei oes achosodd ei froncitis iddo gael strôc a effeithiodd ar ei leferydd a'i gof. Bu farw yng Ngwerniago, Pennal yn 72 mlwydd oed. Dychwelwyd ei gorff i Ddyffryn Ardudwy i'w gladdu ym mynwent capel y Methodistiaid Calfinaidd.

Ym 1873 cyhoeddwyd cofiant iddo gan y Parch William Griffith, Talybont Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn. [12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "HUMPHREYS, RICHARD (1790 - 1863), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-10.
  2. "BBC - Hanes Lleol: Ardudwy". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-10-10.
  3. Williams tud 12
  4. Williams tud 13
  5. RICHARD HUMPHREYS O'R DYFFRYN Cymru Cyf. 55, 1918 tud 49
  6. Owen, Robert; Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionnydd, E W Evans, Dolgellau (1891) tud.345
  7. Williams tud 18
  8. Williams tud 40
  9. Y Geninen Cyf. XXVII Rhif. 3 – Gorffennaf 1909 HANES AC ADGOFION
  10. Y Traethodydd Cyf. CVIII (XXI) (466-469), 1953 Richard Humphreys y Dyffryn
  11. "Marwolaeth a Chladdedigaeth Mrs HUMPHREYS gweddw y diweddar Barchedig RICHARD HUMPHREYS Dyffryn - Y Goleuad". John Davies. 1880-06-05. Cyrchwyd 2020-10-10.
  12. "Y DIWEDDAR HYBARCH MR RICHARD HUMPHREYS DYFFRYN - Y Goleuad". John Davies. 1871-10-28. Cyrchwyd 2020-10-10.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Williams, Griffith; Cofiant am y parch. Richard Humphreys, Dyffryn. Hughes & Fab, Wrecsam, 1878 Copi ar gael ar wefan Internet Archive