Robert Everett

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Robert Everett
Ganwyd 1791 Edit this on Wikidata
Gronant Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Chwefror 1875 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweinidog, argraffydd Edit this on Wikidata
Clawr y papur newydd Y Cenhadwr Americanaidd; 1843

Cymro Americanaidd oedd Robert Everett (1791 - 25 Chwefror 1875) a fu'n enwog yn ei ddydd am ei waith yn hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg a chrefydd yn yr Unol Daleithiau ac yn enwedig am ei safiad cyhoeddus yn erbyn caethwasanaeth pobl dduon.

Ganed Robert Everett ym mhentref bychan Gronant, Sir y Fflint yn 1795; goruchwyliwr gwaith plwm oedd eu tad. Roedd hefyd yn aelod o eglwys Trelawnyd ac yn bregethwr cynorthwyol. Roedd taid Robert Everret (fel yr awgryma'r cyfenw) yn dod o'r Alban.

Fe'i ordeiniwyd yn weinidog yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, yn 1815. Fel nifer o'i gydwladwyr a geisiai fywyd gwell a'r rhyddid i addoli, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn ddyn ifanc. Derbyniodd alwad i ofalu am gapel Cymraeg yn Utica, Efrog Newydd, yn 1823 ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau gyda'i wraig Elizabeth a'u plant. Yn 1838 symudodd i Stueben, cymuned fechan y tu allan i Utica, lle bu'n weinidog ar ddau gapel: 'Capel Uchaf' a chapel 'Penymynydd' lle y bu hyd at ei farwolaeth yn 1875.

Cyhoeddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth yn ffigur amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus y cymunedau Cymreig yn America ac ymroddodd i gynnal traddodiadau a llenyddiaeth y Cymry yn y wlad honno. Yn 1840 sefydlodd bapur newydd o'r enw Y Cenhadwr Americanaidd, misolyn a wasanaethai Annibynwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau. Defnyddiodd y cylchgrawn i ymosod ar gaethwasiaeth (neu 'gaethwasanaeth') gan annog Cymry America i ymuno yn yr ymgyrch. Cyhoedai'r papur o'i gartref, gyda'i feibion yn argraffu a'i wraig Elizabeth yn darllen a chywiro'r proflenni. Yn 1843 dechreuodd gyhoeddi'r Dyngarwr, misolyn arall a oedd yn erfyn a ganolbwyntiai ar y mudiad dirwestol, hawliau i ferched, heddychiaeth a'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.[1]

Diddymu Caethwasiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ond fe'i cofir yn bennaf yn yr Unol Daleithiau am ei ymgyrchu diflino, am dros ddeugain mlynedd, yn erbyn caethwasanaeth, a hynny ar adeg cyn Rhyfel Cartref America, pan fu hyd at tua pedair miliwn o bobl dduon mewn caethiwed ar blanhigfeydd y De. Cydweithiodd â diddymwyr caethwasiaeth yn Utica o ganol y 1830au ymalaen. Am dros chwarter canrif ymgyrchodd yn erbyn caethwasanaeth.

Ymunodd gyda'r Liberty Party yn gynnar yn y 1840au, gan gynddeiriogi'r Chwigiaid Cymreig a gredodd na ddylai gweinidog bregethu gwleidyddiaeth. Ar sawl achlysur, pan fyddai Robert Everett yn pregethu, taflai'r Chwigiaid Cymreig wyau a llyfrau emynau ato o oriel y capel! Yn 1856, sefydlwyd plaid newydd a gymerodd le'r hen Liberty Party, sef y 'Gweriniaethwyr', plaid wahanol iawn i'r blaid o'r un enw a geir heddiw. Roedd yn blaid radicalaidd a wrthwynebai ymestyn caethwasanaeth i daleithiau eraill, newydd. Yn 1856 trodd y rhan fwyaf o Gymry America i gefnogi'r Gweriniaethwyr. Erbyn hyn, gwelwyd Everett fel arweinydd moesol Cymry America, ac roedd yn uchel ei barch ac yn boblogaidd iawn.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Jerry Hunter, I Ddeffro Ysbryd y Wlad - Robert Everett a'r ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • D. Davies ('Dewi Emlyn'), Cofiant Robert Everett , Utica, Efrog Newydd, 1879 (Utica, N.Y., 1879 )
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, i, 364-6
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iv, 215, 257
  • Album Aberhonddu… o'r flwyddyn 1755 hyd 1880 , 1898 , 59
  • Ap Vychan, Cadwaladr Jones, Dolgellau ei fuchedd, ei weinidogaeth, ei ddefnyddioldeb cyffredinol, a phrif linellau ei nodweddiad, 1870, 26.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]