Elizabeth Everett

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Elizabeth Everett
Elizabeth Everett.jpg
GanwydElizabeth Roberts Edit this on Wikidata
8 Mai 1797 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 1878 Edit this on Wikidata
Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru - Baner UDA UDA
Galwedigaethathro Edit this on Wikidata
PriodRobert Everett Edit this on Wikidata

Roedd Elizabeth Everett (ganwyd Elizabeth Roberts) (8 Mai, 179712 Mawrth, 1878), yn ymgyrchydd dros achos dirwest, yn ymgyrchu yn erbyn caethwasanaeth ac yn ymgyrchydd dros y pwysigrwydd o roi addysg gyfartal i ferched.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Mrs Everett yn Ninbych yn ferch i Thomas ac Elizabeth Roberts, Rhos Fawr ym 1797. Roedd ei thad yn ddyn o safle pwysig a dylanwadol yn y sir, yn ddiacon parchus iawn gyda'r Annibynwyr yn y dref. Roedd Elizabeth yn un o naw o blant, roedd ei theulu yn amlwg ym mywyd crefyddol anghydffurfiol a bywyd cyhoeddus ei thref enedigol.

Yn wahanol i'r mwyafrif o ferched ei chyfnod cafodd addysg well na'r cyffredin gan fynychu ysgol a gadwyd gan y Parchedig Dr Arthur Jones DD., Bangor. Wedi darfod ei amser fel disgybl i Dr Jones, gwasanaethodd fel athrawes yn ei ysgol. Bu hefyd yn un o athrawesau benywaidd cynharaf yn Ysgolion Sul ei henwad yn y fro.

Yn 16 mlwydd oed, derbyniwyd hi fel cyflawn aelod o Eglwys yr Annibynwyr, Lon Swan, Dinbych, gan y Parch. Thomas Powell. Ym 1815 olynodd y Parch Robert Everett Thomas Powell fel gweinidog y capel. Priododd Elizabeth a'r gweinidog newydd ifanc ym 1816. Bu iddynt 6 merch a 5 mab.[1]

America[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1823 ymfudodd y teulu i Unol Daleithiau America, pan gafodd Robert alwad i wasanaethu Eglwys Cymraeg Stuben, Talaith Efrog Newydd. Yn yr Unol Daleithiau daeth Robert yn enwog fel ymgyrchydd yn erbyn caethwasanaeth, o blaid dirwest, ac o blaid hawliau merched. Ei wraig oedd y "y dylanwad tu ôl i'w ymgyrch wrol". Roedd hi wedi derbyn addysg fenywaidd tu hwnt i'r cyffredin ac am i fenywod eraill cael yr un fraint a hi. Fel athrawes ysgol Sul i blant caeth daeth i ffieiddio caethwasanaeth. Wedi sgwrsio a dyn a aeth yn ôl i feddwdod, ar ôl tyngu llw dirwest, o dderbyn gwin alcoholig yn un o wasanaethau cymun ei gŵr, perswadiodd Robert i gefnogi'r achos dirwest.[2].

Roedd Elisabeth yn gyfrannwr i, a darllenydd proflenni, Y Cenhadwr Americanaidd, misolyn a wasanaethai Annibynwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau. Bu hefyd yn weithgar gyda'r Dyngarwr, misolyn arall, dan olygyddiaeth ei phriod, a oedd yn erfyn a chanolbwyntio ar yr achos dirwestol, hawliau i ferched, heddychiaeth a'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw o niwmonia ym 1878, yn 80 mlwydd oed,[3] a chladdwyd ei weddillion yn yr un bedd a'i ddiweddar ŵr ym mynwent Stuben, Efrog Newydd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "EVERETT, ROBERT (1791 - 1875), a'i frawd EVERETT, LEWIS (1799 - 1863); gweinidogion gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-15.
  2. 2.0 2.1 Cofiant y diweddar Barch. Robert Everett, a'i briod Steuben, Swydd Oneida, N. Y., yn nghyd a detholion o'i weithiau llenyddol cyhoeddedig gan ei deulu adalwyd 15 Ionawr 2020
  3. "MARWOLAETHMRSEVERETT - Y Drych". Mather Jones. 1878-03-14. Cyrchwyd 2020-01-15.