Edgar Christian

Oddi ar Wicipedia
Edgar Christian
Ganwyd6 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
Bu farw1927 Edit this on Wikidata
Galwedigaethanturiaethwr Edit this on Wikidata

Roedd Edgar Christian yn awdur ac anturiaethwr o Sais (6 Mehefin 1908 - Mehefin 1927). Roedd ganddo gysylltiadau ag ardal Pontlyfni ym mhlwyf Clynnog Fawr, gan i'w rieni brynu plasty bychan, Bron-dirion, yno ym 1919.

Aeth Christian ar anturiaeth gyda John Hoirnby a Harold Adlard i ogledd Canada, a cheisio byw ar lan yr Afon Thelon am flwyddyn, ond methodd â chanfod bwyd digonol a bu farw'r tri yn ystod 1927. Mae'r stori wedi ei hadrodd yn nyddiadur Christian, a gyhoeddwyd ym 1937 dan y teitl Unflinching.[1]

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]