John Henry Hughes (Ieuan o Leyn)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Henry Hughes
Ieuan o Leyn.jpg
Ffugenw Ieuan o Leyn Edit this on Wikidata
Ganwyd 11 Hydref 1814 Edit this on Wikidata
Llaniestyn Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Mawrth 1893 Edit this on Wikidata (78 oed)
Wrecsam Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gweinidog, bardd Edit this on Wikidata

Roedd Y Parchedig John Henry Hughes (Ieuan o Leyn) (11 Hydref 18147 Mawrth 1893) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn genhadwr, yn fardd ac yn emynydd Cymreig[1] (o Leyn, oedd sillafiad y gwron o'i enw er mae o Lŷn byddai'r sillafiad safonol cyfoes)

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Ieuan o Leyn yn Ty'n-y-pwll, Llaniestyn, Sir Gaernarfon yn blentyn i Huw Robart, labrwr amaethyddol.[2] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Botwnnog ac yn Athrofa Aberhonddu. Coleg hyfforddi gweinidogion oedd Athrofa Aberhonddu a Hughes oedd un o'r myfyrwyr cyntaf i gael ei hyfforddi yno.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ymadael a'r ysgol symudodd Ieuan i Fangor i fod yn athro cynorthwyol i'r Parchedig Dr Arthur Jones DD a oedd yn cadw un o ysgolion elusennol Dr Daniel Williams yn y ddinas. Roedd Arthur Jones hefyd yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac ef fu'n gyfrifol am annog Ieuan i ddechrau pregethu.[4]

Gan ei fod wedi profi'n bregethwr medrus a phoblogaidd fe'i perswadiwyd i ymgeisio am le yn yr Athrofa newydd oedd ar fin agor yn Aberhonddu. Wedi gorffen ei gwrs yn y coleg cafodd alwad gan eglwys yr Annibynwyr yn Llangollen i wasanaethu fel eu gweinidog. Cychwynnodd ar y gwaith ym mis Ionawr 1843. Gan fod capel yr Annibynwyr yn cael ei hail adeiladu roedd ei braidd yn fenthyg capel y Wesleaid ar gyfer eu hoedfaon. Gan na fyddai'n addas ordeinio weinidog mewn capel enwad arall gohiriwyd ordeinio Hughes hyd 6 Ebrill 1843 pan agorwyd y capel newydd. Cynhaliwyd gwasanaeth i gysegru'r capel newydd a'r gweinidog newydd ar yr un dydd.

Priododd Jane Jones, Llangollen ym 1845 a cawsant nifer o blant. Roedd brawd Jane, Thomas Jones, yn masnachu yn Barbados.[5] Er bod y ddau riant yn Gymry Cymraeg, Saesneg oedd unig iaith eu plant.

Ym 1847 cafodd Ieuan wahoddiad gan Gymdeithas Genhadol Llundain i fynd i Demerara fel cenhadwr. Mae Demerara yn rhan o Gaiana rŵan ond roedd yn rhan o wladfa India'r Gorllewin yn yr Ymerodraeth Brydeinig ar y pryd. Yn ogystal â chenhadu bu hefyd yn gwasanaethu fel gweinidog capel yr Annibynwyr Saesneg yno. Roedd caethwasiaeth wedi dod i ben yn yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1838. Credai Ieuan ei fod yn bwysig bod y bobl oedd newydd ennill eu rhyddid hefyd yn derbyn addysg er mwyn codi eu hathrawon, gweinidogion ac arweinwyr cymdeithasol eu hunain, yn hytrach na pharhau i fod yn ddibynnol ar bobl gwynion. Bu darparu'r fath addysg yn rhan bwysig o'i genhadaeth yn Demerara.

Oherwydd bod hinsawdd Demerara yn effeithio ar ei iechyd ef ac ar iechyd ei wraig, dychwelodd y teulu i Ynysoedd Prydain ym 1854. Sefydlwyd Ieuan yn weinidog ar Eglwys Annibynwyr Hartlepool, Swydd Durham;[6] Horsley-upon-Tyne, Northumberland a Newent, Swydd Gaerloyw cyn dychwelyd i Gymru ym 1875 i fod yn weinidog ar gapel Annibynwyr Saesneg y Cefn Mawr. Ymddeolodd o'r weinidogaeth llawn amser ym 1882 ac aeth i fyw i Wrecsam.[7]

Bardd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Ieuan i farddoni yn ei blentyndod [8] ond yn ystod ei gyfnod ym Mangor dechreuodd troi mewn cylchoedd barddonol. Roedd yn gallu cynganeddu a cheir rhai enghreifftiau o englynion bedd, priodas ac ati ganddo[9] ond telynegion ac emynau oedd ei brif cyfrwng o ganu. Roedd yn ysgrifennu telynegion ac Emynau yn y Gymraeg a'r Saesneg, bu hefyd yn cyfieithu emynau rhwng y ddwy iaith.

Bu'n olygydd colofn farddonol y Llangollen Advertiser am dros ugain mlynedd a chyhoeddwyd ei gerdd olaf yn y papur ychydig ddyddiau cyn ei farw. Cyhoeddwyd dwy flodeugerdd o'i waith Caneuon Ieuan o Leyn a Blodau Lleyn. Mae'n cael ei gofio yn bennaf am ei delyneg Pa beth sydd hardd,[10] a ystyriwyd yn gampwaith yn ei ddydd a'i emyn Wele wrth y drws yn curo.[11][12]

Cyhoeddwyd hefyd cyfrol o'i bregethau Saesneg, The Hand that Saves, and other Sermons, ym 1895.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yn Ruabon Road, Wrecsam yn 78 mlwydd oed [13] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent fwrdeistrefol Wrecsam.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Parry, T., (1953). HUGHES, JOHN HENRY (‘Ieuan o Leyn’; 1814 - 1893), gweinidog a bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 10 Tachwedd 2019
  2. Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad 1841 Tŷ'n y Pwll, Llaniestyn. Cyfeirnod HO107/1390/6
  3. "Marwolaeth leuano Leyn AWDWR BETH SYDD HARDD - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1893-03-16. Cyrchwyd 2019-11-10.
  4. Owen, R. G., (1953). JONES, ARTHUR (1776 - 1860), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 11 Tac 2019
  5. CENINEN GWYL DEWI - Mawrth 1894 Ieuan o Leyn adferwyd 11 Tachwedd 2019
  6. "ADGOFION AM IEUAN O LEYN - Y Drych". Mather Jones. 1900-05-24. Cyrchwyd 2019-11-10.
  7. "THE PRESENTATION MEETINGAT RHOS Y MEDRE - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1882-02-10. Cyrchwyd 2019-11-10.
  8. Y Llenor; Llyfr I Ionawr 1895 Ieuan o Leyn adferwyd 11 Tachwedd 2019
  9. Y Gwladgarwr Cyf. VI rhif. 72 - Rhagfyr 1838 Adferwyd 10 Tachwedd 2019
  10. "BETH SY'N HARDD - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-03-25. Cyrchwyd 2019-11-10.
  11. Wele wrth y drws yn curo Adferwyd 10 Tachwedd 2019
  12. Cambrian News 22 Mawrth 2017 - Community News – Chwiorydd Adferwyd 10 Tachwedd 2019
  13. "NEWYDDION CYFFREDINOL II - Y Brython Cymreig". The Welsh Press Company Limited. 1893-03-17. Cyrchwyd 2019-11-10.