Eisteddfod y Bala 1738

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod y Bala 1738
Enghraifft o'r canlynoleisteddfod Edit this on Wikidata
Dyddiad1738 Edit this on Wikidata
Lleoliady Bala Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae Eisteddfod y Bala 1738 yn enghraifft dda o'r eisteddfodau lleol a gynhaliwyd o bryd i'w gilydd yn y 18g yng Nghymru.

Y cadeirydd oedd Edward Wynne, person Gwyddelwern o 1713 hyd 1745. Ymhlith y beirdd oedd Harri Parri o Graig y Gath, Maldwyn, Rowland o'r Pandy, John Jones, Llanfair, Dafydd ab Ifan Hynaf a Dafydd ab Ifan Ieuengaf, Gwilym ab Iorwerth o Lanfor, Elis Cadwaladr o Landrillo, Dafydd Jones o Drefriw ac un ferch, Siân Ifans o Lanfair Caereinion ym Mhowys.

Agorodd Edward Wynne yr eisteddfod trwy annerch ei gyd-feirdd mewn cyfres o englynion. Cafwyd caneuon i Syr Watcyn Williams Wynn ac ysgweiriaid eraill, cerddi i feirdd y fro a cherddi i'r Bala a Llyn Tegid. Enillwyd y Gadair gan Elis Cadwaladr.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Owen M. Edwards (gol.), Beirdd y Bala (Llanuwchllyn, 1911)
  • Helen Ramage, 'Eisteddfodau'r 18g', yn Idris Foster (gol.), Twf yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968)