John Peter (Ioan Pedr)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Peter
Portrait of Ioan Pedr (4670577).jpg
Ffugenw Ioan Pedr Edit this on Wikidata
Ganwyd 10 Ebrill 1833 Edit this on Wikidata
Y Bala Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Ionawr 1877 Edit this on Wikidata (43 oed)
Y Bala Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg y Bala Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gweinidog yr Efengyl, academydd, ieithydd, bardd, hanesydd, daearegwr, Tiwtor, offeiriad Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Celtaidd, ieithydd a gweinidog Cymreig oedd John Peter (10 Ebrill, 183317 Ionawr, 1877), a adnabyddir gan amlaf wrth ei enw barddol Ioan Pedr. Yn ŵr hunan-addysgiedig, daeth yn un o arloeswyr ei gyfnod ym maes ieitheg Geltaidd gymharol.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Ioan Pedr yn Y Bala, Meirionnydd, Gwynedd yn 1833. Roedd ei rieni yn dlawd a bu rhaid iddo weithio am gyfnod mewn melin flawd. Aeth ati i ddysgu nifer o ieithoedd ac astudio daeareg yn ei amser ei hun. Oherwydd hynny, cafodd le yng Ngholeg y Bala a daeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr.

Fel ysgolhaig roedd ei waith yn arloesol. Dylanwadwyd arno gan waith ysgolheigion mawr yr Almaen yn y cyfnod hwnnw, megis Johann Kaspar Zeuss. Cyhoeddodd ei brif waith, Certain Peculiarities of Celtic Grammar, yn 1867. Cyfranodd nifer sylweddol o erthyglau ar amryw o bynciau yn ymwneud â'r Celtiaid i gylchgronau dysgedig fel y Revue Celtique ac Y Cymmrodor.

Torwyd ei yrfa yn fyr pan fur farw yn 1877, yn 44 oed.

Llyfryddiaeth fer[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Certain Peculiarities of Celtic Grammar (1867)