Owain Meirion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Owain Meirion
Ganwyd 1803 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata

Baledwr oedd Owain Meirion neu Owen Gruffydd (180322 Mehefin 1868), a anwyd yn Y Bala.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni wyddom lawer am ei gefndir na'i flynyddoedd cynnar ond mae'n amlwg wrth ei waith ei fod wedi dysgu darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Yn wahanol i nifer o faledwyr y 19g roedd Owain yn canu ar y mesurau caeth yn ogystal â'r mesurau rhydd pbologaidd. Roedd hefyd yn canu gyda'r tannau.

Bywyd digon llwm a gafodd, serch hynny. Treuliodd ddeugain mlynedd yn crwydro'r ffeiriau o Fôn i Fynwy ond pan aeth yn rhy hen bu rhaid iddo fyw 'ar y plwy' mewn tŷ bychan yn Llanbrynmair:

'Byw ar dri swllt, bron d'rysu, - am wythnos
A methu trafaelu;
Drudaniaeth yn dirdynu
I'm herbyn er dychryn du.'

Canai ar y pynciau poblogaidd oedd yn rhan o stoc y baledwyr, fel 'Suddo'r Royal Charter'. Byddai'n sefyll mewn ffair yn pwyso ar ei bastwn tra'n datgan ei gerddi a chynnig copïau i'w prynu.

Bu farw ar 22 Mehefin, 1868, yn 65 mlwydd oed. Er ei fod yn ddyn tlawd cafodd cofeb weddus iddo yn Llanbrynmair, diolch i ymdrechion ffrindiau a beirdd fel Mynyddog, a gyfansoddodd yr englyn coffa sydd ar y gofeb:

'Baledwr heb waelodion - i'w ddoniau
Oedd hwn - mae'i wlad dirion
Yn weddw'n awr am y ddawn hon,
Yn marw Owain Meirion.'

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Robert Griffith, traethawd ar y bardd yn, Deuddeg o Feirdd y Berwyn (Lerpwl, 1910).