Datgeiniad

Oddi ar Wicipedia

Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, gŵr a "ddatganai" gerddi'r beirdd oedd y datgeiniad. Roedd datgan cerdd yn grefft ynddi ei hun yn y gyfundrefn a bontiai Cerdd Dafod a Cherdd Dant. Roedd y term "datgan" yn golygu perfformio - canu gan amlaf, mae'n debyg - cerdd yn y neuadd ond erys cryn ansicrwydd ynglŷn â natur y perfformio hwnnw. Parhaodd yr arfer hyd gyfnod y Tuduriaid ac efallai'n wir hyd yr 17g a diwedd y traddodiad barddol Cymraeg fel cyfundrefn.

Yn ôl tystiolaeth y gramadegau barddol a Statud Gruffudd ap Cynan, roedd disgwyl i'r datgeiniad fedru darllen Cymraeg, gwybod yr wyth rhan ymadrodd mewn gramadeg (e.e. berfau, enwau), sillafau, cyfansoddi englyn a gwybod hefyd iawn ddosbarth cywydd ac awdl a medru eu datgan. Roedd disgwyl iddo fod yn gyfarwydd a cheinciau Cerdd Dant (cerddoriaeth) hefyd; yn ymarferol roedd hyn yn golygu medru canu'r delyn a/neu'r crwth.[1]

Roedd ei waith ynghlwm wrth y bardd, yn ôl Statud Gruffudd ap Cynan. Roedd disgwyl iddo fynd gyda bardd trwyddedig ar gwrs clera ac ymddengys ei fod yn gwasanaethu fel math o was ystafell iddo hefyd.[2]

Erbyn cyfnod y Tuduriaid, canai'r datgeiniaid trwyddedig gerddi'r beirdd i gyfeiliant distaw y delyn (telyn rawn gyda'i thannau o fwng neu gynffon ceffyl) neu'r crwth, ond gwyddom am ddosbarth o ddatgeinaid o statws is a elwir yn "ddatgeniaid pen pastwn". Byddai un o'r datgeiniaid hyn yn sefyll ar ganol y neuadd ac yn curo'r llawr yn rhythmig gyda'i bastwn (ffon fawr) wrth adrodd neu ganu'r gerdd.[3] Mae'n bosibl fod y math yma o ddatgeniaid o dras hynafol ac yn adlewyrchu'r arfer gynnar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyn Thomas, Eisteddfodau Caerwys (Caerdydd, 1968), tud. 62.
  2. Eisteddfodau Caerwys, tud. 62, 63.
  3. Eisteddfodau Caerwys, tud. 64.