Royal Charter

Oddi ar Wicipedia
Royal Charter
Enghraifft o'r canlynolagerlong Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaJohn Evans Edit this on Wikidata
Map
Hyd71.6 metr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Royal Charter
Eglwys Sant Gallgo, Llanallgo, gyda beddau'r rhai a foddwyd. c. 1860

Roedd y Royal Charter yn llong hwylio stêm a ddrylliwyd ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn ger pentref Moelfre ar 26 Hydref 1859. Collwyd y rhestr o deithwyr yn y llongddrylliad, felly nid oes sicrwydd am yr union nifer o fywydau a gollwyd, ond gallai fod cyn uched â 459. Dyma'r llongddrylliad a laddodd fwyaf o bobl o bob un ar arfordir Cymru. Collwyd tua 200 o longau llai yn yr un storm.

Adeiladwyd y Royal Charter yng Ngwaith Haearn Sandycroft ar Afon Dyfrdwy a lansiwyd hi yn 1857. Roedd yn fath newydd ar long, llong hwyliau ond gyda pheiriant ager y gellid ei ddefnyddio pan nad oedd gwynt. Defnyddid hi ar y fordaith o Lerpwl i Awstralia, ar gyfer teithwyr yn bennaf ond gyda rhywfaint o le i gargo. Roedd lle i tua 600 o deithwyr. Ystyrid hi yn llong gyflym iawn; gallai wneud y daith i Awstralia mewn llai na 60 diwrnod.

Llongddrylliad[golygu | golygu cod]

Drylliwyd y Royal Charter ar y creigiau hyn ger Moelfre

Ddiwedd Hydref 1859 roedd y Royal Charter yn dychwelyd i Lerpwl o Melbourne. Roedd arni tua 371 o deithwyr gyda chriw o tua 112 a rhai pobl eraill oedd yn gweithio i’r cwmni. Roedd llawer o’r teithwyr yn dychwelyd o’r cloddfeydd aur yn Awstralia, a llawer ohonynt yn dod ag aur yn ôl gyda hwy. Roedd llawer o aur hefyd yn cael ei gario fel cargo. Wrth i’r llong gyrraedd arfordir gogledd-orllewin Môn roedd y gwynt yn dechrau codi.

Ceisiodd y Royal Charter godi’r peilot ar gyfer Lerpwl pan oedd gyferbyn â Phwynt Lynas, ond erbyn hyn roedd y gwynt wedi codi i raddfa 10 ar raddfa Beaufort a’r môr yn rhy arw iddi gyfarfod y peilot. Yn ystod noson 25/26 Hydref cododd y gwynt i raddfa 12. Hon oedd Storm y Royal Charter, a achosodd ddifrod enbyd. Ar y cychwyn roedd y gwynt yn chwythu o’r dwyrain, ond yna newidiodd ei gyfeiriad i’r gogledd-ddwyrain ac yna tua’r gogledd, gan yrru’r llong tuag at arfordir dwyreiniol Môn. Am 11 o’r gloch y noson honno gollyngwyd yr angor, ond am hanner awr wedi un ar fore’r 26ain torrodd un o’r ceblau oedd yn ei ddal, yna awr yn ddiweddarach torrodd y llall. Gyrrwyd y Royal Charter tua’r lan, gyda’r peiriant ager yn methu gwneud dim yn erbyn y storm. Ceisiwyd torri’r mastiau i leihau pwysau’r gwynt ar y llong, ond fe yrrwyd y llong ar fanc tywod ger Moelfre. Yn gynnar ar fore’r 26 Hydref, wrth i’r llanw godi, gyrrwyd hi yn erbyn y creigiau rhwng Moelfre a Thraeth Llugwy. Gyda’r gwynt yn ei hyrddio yn erbyn y creigiau, drylliwyd y llong yn ddarnau.

Cofeb y Royal Charter uwchben y creigiau lle drylliwyd hi

Gallodd un aelod o’r criw, Joseph Rogers, nofio i’r lan gyda rhaff, a defnyddiwyd hon i achub ychydig o bobl, a gallodd ychydig rhagor nofio i’r lan. Bu farw dros 450 o bobl, rhai wedi boddi ond y rhan fwyaf wedi eu lladd trwy gael eu hyrddio yn erbyn y creigiau gan y tonnau enfawr. Achubwyd 21 o deithwyr ac 18 o’r criw, pob un yn ddynion. Ni achubwyd yr un ferch na phlentyn. Ymysg yr aelodau o’r criw a fu farw roedd bachgen oedd yn frodor o bentref Moelfre ei hun, Isaac Lewis.

Dywedir fod llawer o aur wedi ei olchi i’r lan yn y dyddiau nesaf, ac i rai teuluoedd ym Moelfre ddod yn gefnog dros nos. Roedd yswiriant o £322,000 ar yr aur yn y cargo, ond roedd y teithwyr yn cario llawr yn ychwaneg. Cafwyd hyd i ynnau, sbectol, ac aur gan blymwyr tanfor dros y blynyddoedd.[1] Defnyddir darganfyddwyr metel tanddwr a pheiriannau eraill yn eitha diweddar (2013).[2]

Claddwyd y rhan fwyaf o’r cyrff ym mynwent Llanallgo gerllaw, lle gellir gweld beddau a chofeb iddynt. Mae hefyd gofeb ger y traeth uwchben y creigiau lle drylliwyd y llong, ger Llwybr Arfordirol Ynys Môn.

Bu rheithor Llanallgo, Stephen Roose Hughes yn eithriadol o brysur yn ceisio rhoi enwau ar y cyrff drylliedig a chysuro’r teuluoedd, ac mae’n debyg i’w ymdrechion arwain at ei farwolaeth ef ei hun yn fuan wedyn. Ymwelodd Charles Dickens ag ef yn fuan ar ôl y llongddrylliad, ac mae’r hanes yn ei gyfrol The Uncommercial Traveller.

Bron union ganrif yn ddiweddarach yn Hydref 1959 drylliwyd llong arall, yr Hindlea, ar yr un creigiau mewn storm arall. Y tro hwn roedd y canlyniad yn wahanol: achubwyd y criw i gyd gan fad achub Moelfre.

Mewn pennod o'r rhaglen deledu Who Do You Think You Are? gan y BBC, gwnaeth y garddwr Monty Don ddarganfod y bu farw un o'i deulu, Charles Hodge, yn llongddrylliad y Royal Charter.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Charles Dickens, The Uncommercial Traveller (1860–61)
  • T. Llew Jones, Ofnadwy Nos (Llandysul: Gwasg Gomer, 1971)
  • Alexander McKee, The Golden Wreck: The Tragedy of the 'Royal Charter' (Souvenir Press, 1986)

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Recordiwyd cân am y drychineb, ”Isaac Lewis” gan Tom Russell, canwr gwerin o’r Unol Daleithiau; recordiwyd yr un gân gan William Pint a Felicia Dale, canwyr gwerin o Seattle, Talaith Washington.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Holden, Chris (2008). Underwater Guide to North Wales Cyfrol. 2. Calgo Publications. tt. 142–143. ISBN 978-0-9545066-1-2.
  2. Julian Todd. "North Wales Kayak – Summer 2004/5". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-10-26. Cyrchwyd 2013-04-04.