Dyddiadur Adarydda y Parch. Harri Williams

Oddi ar Wicipedia
Dyddiadur Adarydda y Parch. Harri Williams

Roedd Harri Williams yn weinidog i'r Hen Gorff yn Arfon. Mae ei ddyddiadur adarydda byr (1958 yn unig) yn dangos gwedd ar hunanddysgu adarydda a diddordeb yn y pwnc sy'n brin mewn gweinidogion anghydffurfiol o'u cymharu ag offeiriaid yr Eglwys Anglicanaidd. Ond gadawodd ysgrifau hir a chyfoethog am yr antur o ddysgu maes lled ddieithr a'i feistroli ac mae rhain i'w gweld trwy ddolen o'r dudalen hon ar wefan Llên Natur.

Ffynhonnell a chyfrannydd ei ysgrifau yw teulu Catrin Evans, Llanfairfechan.

Ei fywyd[golygu | golygu cod]

Dyma deyrnged gan 'JTW' a gyhoeddwyd mewn papur newyddion anhysbys ar ei farwolaeth. Cadwodd toriad ohono gan ei deulu. O'i ddarllen gellir efallai gweld ynddo y mudandod am ei ddiddordeb adaryddol yn fyddarol, ac yn ddadlennol efallai o ddifaterwch Yr Hen Gorff i'r gwyddorau naturiol. A oedd diddordeb HW mewn adar yn hysbys yn ystod ei fywyd i'w gyfoeswyr ynteu a oedd aelodau'r sefydliad Methodistaidd am anfarwoli Harri yn eu delw ei hunain yn unig?

Marwolaeth Harri Williams

Bu farw'r Athro Harri Williams yn sydyn fore Llun Ionawr 31, [1983] yn 69 mlwydd oed. Brwydrodd ar hyd ei oes yn erbyn afiechyd blin a threuliodd fisoedd mewn ysbytai. Cofnododd ei brofiadau yno yn y gyfrol Ward 8 (1963). Ond ni lwyddodd gwendid corfforol i lesteirio ei egni a'i ymroddiad i bregethu, i ddarlithio ac i lenydda — gorchwylion a gyflawnodd hyd yr eithaf hyd ddiwedd ei oes.

Yn ei hoff Sir Fôn, yn y Marian-glas, yr oedd ei wreiddiau, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i ieuenctid yn Lerpwl. Nid adnabu ei dad, capten llong a foddwyd oddi ar orllewin Affrica yn fuan wedi iddo ef gael ei eni, a bu ei fam farw cyn iddo gyrraedd ei arddegau. Fe'i magwyd ef a'i frawd a'i chwiorydd gan fodryb yn Lerpwl.

Bu'n ddisgybl yn ysgol enwog y Collegiate ac yna aeth am bum mlynedd i weithio mewn swyddfa. I'r cyfnod hwn yn ddiau y dylid priodoli ei ddiddordeb parhaol mewn economeg a mathemateg. Fe'i perswadiwyd gan ei weinidog i fynd yn syth o'r swyddfa i Brifysgol Rhydychen i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Aeth yno yn 1934 i astudio Diwinyddiaeth yng Nghymdeithas y Santes Catherine gan arbenigo mewn athroniaeth crefydd dan gyfarwyddyd athro adnabyddus, A. M. Farrer. Yn y cyfnod cynnar yma dechreuodd ysgrifennu yn Gymraeg ac yn y gyfrol 'Oni Threngodd Duw?' (1975) gwelir rhai o'i erthyglau cynharaf yn ogystal aâ rhai diweddarach sy'n amlygu ei ddiddordeb dwfn yn natblygiadau diweddaraf y cyfnod mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth a'i awydd i'w cyflwyno i ddarllenwyr y Gymraeg. Wedi blwyddyn yng Ngholeg y Bala ar ôl graddio gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen, aeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i Dywyn, wedi hynny i Waunfawr ac yna i Fangor cyn cael ei benodi yn 1964 i’r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth, i fod yn bennaeth cyntaf yr Adran Fugeiliol — adran a ganolbwyntiai ar baratoi myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf ar gyfer y weinidogaeth. Ef oedd yn bennaf gyfrifol an gwrs sydd wedi ei gydnabod droeon fel un hynod werthfawr a chynhwysfawr ar gyfer y gwaith. Yn ogystal â’r dyletswyddau hyn darlithiai ar Ddiwinyddiaeth Fodern a’r Foeseg i fyfyrwyr ar gyfer gradd a diploma'r Brifysgol. Gwelir peth o ffrwyth y llafur hwn yn ei gyfrolau, 'Y Cristion Cyfoes' (1967); 'Bonhoeffer. (1981) yn y gyfres 'Y Meddwl Modern', a `Duw a Phob Daioni (1978).

Ar hyd ei yrfa bu'n eang iawr ei ddiddordebau a mynnai gysylltu diwinyddiaeth a diwylliant yn gyffredinol, ac yn arbennig â llenyddiaeth ac â cherddoriaeth. Darllenai'n eang ymysg awduron cyd-genedlaethol ac adlewyrchid hyn yn y cyfrolau a'i dygodd yn ddiau i sylw cylch ehangach o ddarllenwyr, sef 'Y Ddaeargryn Fawr', cyfrol ar ffurf hunangofiant y meddyliwr mawr o Ddenmarc, Kierkegaard, a 'Deunydd Dwbl', (1982), nofel am Dostoiefsci y Rwsiad. Ennillodd y gyntaf glod uchel pan ddyfarnwyd iddo'r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Gened-laethol Caerdydd 1978, ac er i'r ail fethu a chipio'r wobr am nofel yn Eisteddfod Machynlleth yn 1981 fe'i galwyd gan D. Tecwyn Lloyd, un o'n beirniaid llenyddol praffaf, yn gampwaith.

Âi ei ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth yn ôl i'w blentyndod yng nghwmni ei frawd, W. Albert Williams. Apwyntiwyd ef yn Drefnydd Cerdd Sir Aberteifi ar ddiwedd y rhyfel byd diwethaf, ond bu farw cyn cael cychwyn ar ei waith. Roedd hi'n hynod addas mai Cymdeithas Lyfrau Ceredigion a gyhoeddodd dwy gyfrol Harri Williams ar gerddorion, 'Chwech o Gewri Cerdd' (1962) a `Rhagor o Gewri Cerdd' (1967). Cafodd plant llawer cenhedlaeth flas ar y cyfrolau hyn.

Eithr ni fu ei ymlyniad diwyro wrth lenydda yn foddion i ymgilio rhag pobl. I'r gwrthwyneb, ymddiddorai'n fawr mewn pobl a'u cynefin. Gwelir hyn yn ei lyfrau taith, `Crwydro Cernyw' (1971) a `Crwydro'r Ynys Hir' (1968). Ac, wrth gwrs, credai'n gryf mai bugeilio pobl oedd swyddogaeth bwysicaf y gweinidog. Yn un o'i ysgrifau dyfynna ddiwinydd a ddywedodd: "Dywedwch wrthyf beth yw eich syniad am ddyn, ac mi ddywedaf wrthych pa fath o fugail ydych." Ei gonsyrn am bobl a'i gwnaeth yn awdur mor llwyddiannus wrth gyflwyno syniadau crefyddol i leygwyr. Mae'r ddawn hon o boblogeiddio athrawiaethau dyrys a'u cyflwyno i eraill yn hynod o brin, ac yn sicr llwyddodd i gyrraedd cynulleidfa eang o ddarllenwyr: e.e. gwerthwyd yr holl stoc o'i gyfrolau, 'Y Ddaeargryn Fawr' a `Duw a Phob Daioni', yn fuan wedi eu cyhoeddi. Ef ond odid oedd ein hawdur mwyaf poblogaidd yn ei feysydd dewisedig.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cynyddodd ei ddiddordeb yn hanes diwylliant a chrefydd Cymru yn y ganrif ddiwethaf. Cyhoeddwyd ei Ddarlith Davies `Duw, Daeareg a Darwin' yn gyfrol ar ddydd ei thraddodi ym Mhenygroes, Sir Gâr yn 1979. Ychydig ddyddiau cyn ei farw bu'n darlithio ar John Phillips (brodor o Bontrhydfendigaid), sylfaenydd y Coleg Normal, Bangor, yn y coleg hwnnw ar achlysur dathlu 125 mlynedd ei sefydlu, a bwriadai gyhoeddi cofiant llawn iddo. Roedd hefyd yn ddarlledwr cyson ar amryfal bynciau a chyfrannodd lu o sgriptiau i'r radio ar hyd y blynyddoedd. Yn ddiweddar paratodd sgriptiau ar Kierkegaard a Luther ar gyfer S4C.

JTW

Nodweddion ei ysgrifau adaryddol a'i ddyddiadur adarydda[golygu | golygu cod]

Cewch ddarllen hanes ei fentrau adarydda a'i fyfyrion ar y pwnc, yn adran y Llyfrgell ar wefan Llên Natur [1].

Cronicl o ymweliadau â phrif atyniadau adaryddwyr Môn ac Arfon yn 1958 sydd yn ei ddyddiadur byr [2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]