Harri Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Harri Williams
Ganwyd 1913 Edit this on Wikidata
Bu farw 1983 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdur Cymraeg a ennillodd y Fedal Ryddiaith yn 1978 oedd Harri Williams (19131983).

Roedd gwreiddiau Harri yn Sir Fôn ond treuliodd y rhan fwyaf o'i blentyndod yn Lerpwl. Roedd yn faban pan gollwyd ei dad, y Capten Richard Williams, ar y môr ger traethau Lagos yn Nigeria.

Bu'n gweithio yn Lerpwl am bum mlynedd cyn mynd i Rydychen i ddilyn cwrs diwinyddol. Bu'n weinidog yn Nhywyn, Waunfawr cyn symud i ofalu am Eglwys ym Mangor. Bu hefyd yn gofalu am yr adran fugeiliol yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Chwech o gewri cerdd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Cyf, 1962)
  • Ward 8 (Gwasg Gomer, 1963)
  • Rhagor o gewri cerdd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1967)
  • Y Crist cyfoes (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1967)
  • Crwydro'r Ynys Hir (Llyfrau'r Dryw, 1968)
  • Crwydro Cernyw (Llyfrau'r Dryw, 1971)
  • Rhyfel yn Syria (Christopher Davies, 1972)
  • Ein ffydd heddiw (Argraffty'r Methodistaid Calfinaidd, 1976)
  • Y Ddaeargryn fawr (Gwasg Gomer, 1978) (Medal Ryddiaith)
  • Bonhoeffer (Gwasg Gee, 1981)
  • Mam a fi (Gwasg Gomer, 1983)[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.