Porto
Jump to navigation
Jump to search
Dinas ar arfordir rhan ogleddol Portiwgal yw Porto (Portiwgaleg: Porto, Sbaeneg: Oporto). Gyda 240.000 o drigolion yn 2008, a 2,000,000 yn yr ardal ddinesig, hi yw ail ddinas Portiwgal o ran maint. Saif ar lan ogleddol aber Afon Douro.
Cyhoeddwyd canol hanesyddol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae'r ardal yn enwog am ei gwin, a roddodd y ddinas ei henw i win "port".
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Casa da Música
- Eglwys gadeiriol
- Gorsaf São Bento
- Igreja dos Clérigos (eglwys)
- Palácio da Bolsa
- Pont Arrábida
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Francisco de Sá Carneiro (1934-1980), gwleidydd
- Rosa Mota (g. 1958), athletwraig