Homo erectus pekinensis

Oddi ar Wicipedia
Animalia
Dyn Beijing
(Saes: Peking man)
Amrediad amser: Pleistosen
Y craniwm cyntaf o Homo erectus pekinensis (Sinanthropus pekinensis) a ganfyddwyd yn 1929 yn Zhoukoudian, bellach ar goll.
Dosbarthiad gwyddonol Edit this classification
Teyrnas: Animalia
Phylum: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Is-urdd: Haplorhini
Teulu: Hominidae
Genus: Homo
Rhywogaeth: H. erectus
Isrywogaeth: H. e. pekinensis
(Black, 1927)
Enw Trinomial
Homo erectus pekinensis
(Black, 1927)
Cyfystyron

Sinanthropus pekinensis

Math o Homo erectus yw Dyn Beijing (北京猿人 neu Běijīng Yuánrén; Saesneg: Peking Man), a elwir yn Lladin yn Homo erectus pekinensis (ac a arferwyd ei adnabod dan yr enw Sinanthropus pekinensis). Darganfuwyd yr olion cynharaf ohono rhwng 1923–27 wrth i archaeolegwyr gloddio yn Zhoukoudian (Chou K'ou-tien) ger Beijing (neu "Peking" fel y'i gelwid cyn mabwysiadu'r sillafiad newydd), Tsieina.

Credir fod y grŵp yma o ffosiliau yn dyddio 750,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP),[1] ac yn 2009 cafwyd dyddio 26Al/10Be a oedd yn cadarnhau eu bod rhwng 680,000–780,000 o flynyddoedd CP.[2][3]

Rhwng 1929 a 1937, darganfuwyd rhan o benglog (crania), 11 gên, llawer o ddannedd, esgyrn amrywiol a nifer fawr o offer cerrig yn y Ogof Isaf yn Ardal 1 o safle Dyn Beijing yn Zhoukoudian. Amcangyfrifwyd ar y pryd eu bod rhwng 500,000 a 300,000 o flynyddoedd CP. Darganfuwyd hefyd nifer o ffosilau o bobl modern yn yr Ogof Uchaf ar yr un safle yn 1933.

Ymhlith y ffosiliau mwyaf cyflawn roedd:

  • Mae Penglog II, a ddarganfuwyd yn 'Locus D' ym 1929, ac a ddyddiwyd yn 1930, yn oedolyn neu'n lasoed gyda maint ymennydd y tri hyn yn 1030 cc.
  • Penglog III, a ganfuwyd yn 'Locus E' yn 1929 - glasoed gyda'i ymennydd yn 915 cc.
  • Darganfuwyd Penglogau X, XI a XII (a elwir weithiau LI, LII a LIII) yn 'Locus L' yn 1936. Credir eu bod yn perthyn i oedolyn gwrywaidd, oedolyn benywaidd ac oedolyn ifanc (neu 'lasoed'), gyda maint yr ymennydd yn 1225 cc, 1015 cc a 1030 cc.
  • Penglog V: canfuwyd dwy ran o benglog yn 1966 - rhannau coll o benglog a ganfuwyd yn 1934/6; mae cyfaint y penglog hwn yn 1140 cc. Mae'r penglog hwn yn fwy modern na'r gweddill.[4]

Davidson Black oedd yr archaeolegydd a wnaeth y rhan fwyaf o'r astudiaeth ar y ffosilau hyn hyd nes ei farwolaeth yn 1934. Cymerodd Pierre Teilhard de Chardin ac yna Franz Weidenreich ddisodli nes iddo adael Tsieina yn 1941. Diflannodd y ffosilau gwreiddiol yn 1941, ond mae'r modelau (castai) yn fanwl iawn ac felly hefyd y disgrifiadau o'r ffosiliau gwreiddiol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Paul Rincon (11 Mawrth 2009). "'Peking Man' older than thought". BBC News. Cyrchwyd 22 Mai 2010.
  2. Shen, G; Gao, X; Gao, B; Granger, De (Mawrth 2009). "Age of Zhoukoudian Homo erectus determined with (26)Al/(10)Be burial dating". Nature 458 (7235): 198–200. Bibcode 2009Natur.458..198S. doi:10.1038/nature07741. ISSN 0028-0836. PMID 19279636.
  3. "'Peking Man' older than thought". BBC News. 11 Mawrth 2009. Cyrchwyd 22 Mai 2010.
  4. Jia & Huang (1990).