Sgwrs:Tsieina

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r erthygl[golygu cod]

I've been moving this from "Tsieina" to "Tseina" because it is Tseina on our map of Asia and because that is the way of spelling I always have seen everywhere. Upon reconsidering I have found that both exist: Has it been a rash move??? --okapi 09:56, 6 Meh 2004 (UTC)

Tsieina / Tseina / Seina / China (I've seen all these variations in written Welsh) is a difficult choice, but I much prefer Tsieina over the others since it's the phonetic spelling of the way all Welsh speakers I've met pronounce the name. If the others were pronounced as they were spelt they would sound very strange! Gareth Wyn 13:10, 6 Meh 2004 (UTC)
Right, I'll move the page back, then. Sorry for the muddle. Would it be necessary to change the map so that we are coherent, again? --okapi 15:28, 6 Meh 2004 (UTC)

Enw'r erthygl eto[golygu cod]

Mae pethau'n anghyson a dryslyd ar y funud. Mae gennym ni "Tsieina" yma ond "Gweriniaeth Pobl China" ac felly ymlaen.

O chwilio ar google i gael syniad pa un sy'n fwyaf cyffredin

  • Tseina 1,180
  • Tsieina 2,220
  • China - yn anoddach am resymau amlwg, ond mae "China" a "gwlad", er enghraifft yn rhoi 3,380, y rhan fwyaf, er nad y cwbl, yn ddogfennau Cymraeg.

Mi fuaswn i'n awgrymu felly mai "China" yw'r un a ddefnyddir fwyaf. Porius1 18:17, 25 Mehefin 2008‎

Dwi'n cytuno fod pethau'n anghyson ar hyn o bryd. Y broblem ydy fod 'na sawl ffordd o sgwennu enw'r wlad yn Gymraeg a bod neb yn cytuno (mae'r sefyllfa'n waeth byth yn achos yr iaith a'r bobl!). Yn bersonol dwi wedi arfer â "Tsieina" ers blynyddoedd a dydwi ddim yn gweld y ddadl dros dderbyn y ffurf Saesneg "China", pe bai dim ond am yr ynganiad. Ond mae'n debyg fy mod yn hen ffasiwn braidd - fedra'i ddim deall pam ein bod yn defnyddio "Japan" (enw Saesneg eto) a "Japaneg" yn lle "Siapan" a "Siapaneg" chwaith. Ond ar y llaw arall mae'n ymddangos fod "China" yn ddewis fwy poblogaidd y dyddiau hyn. Cyn belled ag y mae'r wicipedia yn bod mae'n bwysig inni fod yn gyson, felly rhaid dewis rhwng "Tsieina" a "China". Ond mi hoffwn weld ymateb cyfranwyr eraill cyn gwneud hynny - dwi'n treulio gormod o amser yn barod ar y categorïau! Anatiomaros 18:53, 25 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Yn cefnogi Tsieina neu Tseina. Lloffiwr 10:19, 2 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Yn cefnogi Tsieina, ac felly'n cefnogi symud Gweriniaeth Pobl China i Gweriniaeth Pobl Tsieina. —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:31, 28 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Syniad da. Mae'n ymddangos (uchaf) bod cefnogaeth gyffredinol am y ffurf 'na. Af i ati. Alan012 21:24, 28 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]