Taleithiau a thiriogaethau Awstralia
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | enw un tiriogaeth mewn gwlad unigol ![]() |
---|---|
Math | administrative territorial entity of Australia, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf ![]() |
![]() |


Mae taleithiau a thiriogaethau Awstralia yn adrannau gweinyddol ffederal yn Awstralia sy'n cael eu rheoli gan lywodraethau rhanbarthol. Y rhain yw'r ail lefel o lywodraethu rhwng y llywodraeth ffederal a llywodraethau lleol.
Mae'r taleithiau yn endidau hunanlywodraethol, er nad oes ganddynt sofraniaeth lwyr. Mae ganddynt eu cyfansoddiadau eu hunain, yn ogystal â deddfwrfeydd, adrannau gweinyddol, a rhai awdurdodau sifil (e.e. barnwriaeth a heddlu).
Yn ymarferol mae'r tiriogaethau yn debyg iawn i'r taleithiau, ac yn gweinyddu polisïau a rhaglenni lleol. Fodd bynnag, maent yn israddol yn gyfansoddiadol ac yn ariannol i'r llywodraeth ffederal ac felly nid oes ganddynt wir sofraniaeth.
Mae gan Awstralia chwe thalaith a dwy diriogaeth.
Talaith | Talfyriad | Prifddinas | Poblogaeth (2021)[1] |
Prif Weindog |
---|---|---|---|---|
![]() |
SA | Adelaide | 1,773,243 | Peter Malinauskas |
![]() |
NSW | Sydney | 8,189,266 | Dominic Perrottet |
![]() |
WA | Perth | 2,681,633 | Mark McGowan |
![]() |
QLD | Brisbane | 5,221,170 | Annastacia Palaszczuk |
![]() |
TAS | Hobart | 541,479 | Peter Gutwein |
![]() |
VIC | Melbourne | 6,649,159 | Daniel Andrews |
Talaith | Talfyriad | Prifddinas | Poblogaeth (2021)[1] |
Prif Weindog |
---|---|---|---|---|
![]() |
NT | Darwin | 246,338 | Michael Gunner |
![]() |
ACT | Canberra | 432,266 | Andrew Barr |
Tiriogaeth | Anheddiad mwyaf | Poblogaeth (2021)[1] |
Gweinyddir gan |
---|---|---|---|
![]() |
Jervis Bay Village | 405 | ![]() |
![]() |
Ynys Arglwydd Howe | 382 | ![]() |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Ystadegau amcangyfrifedig, Mehefin 2021: "National, state and territory population, June 2021" (yn Saesneg). Swyddfa Ystadegau Awstralia (Australian Bureau of Statistics). Mehefin 2021.