Neidio i'r cynnwys

David Ben-Gurion

Oddi ar Wicipedia
David Ben-Gurion
GanwydДавид Йосеф Грин Edit this on Wikidata
16 Hydref 1886 Edit this on Wikidata
Płońsk Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 1973 Edit this on Wikidata
Ramat Gan, Jaffa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, yr Ymerodraeth Otomanaidd, Palesteina dan Fandad, Israel Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Istanbul University Faculty of Law
  • Uniwersytet Warszawski
  • Prifysgol Istanbul Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur, seionydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Israel, Prif Weinidog Israel, Minister of Defense, Minister of Defense, Aelod o'r Knesset, ysgrifennydd cyffredinol, Education Minister of Israel, Justice Minister of Israel, Minister of Transport and Road Safety, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, President of the Provisional State Council Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDeclaration of the Establishment of the State of Israel Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMapai, Rafi, National List, Workers of Zion, Labor Unity Edit this on Wikidata
TadAvigdor Ben Gurion Edit this on Wikidata
PriodPaula Ben-Gurion Edit this on Wikidata
PlantAmos Ben-Gurion, Renana Leshem, Geula Ben-Eliezer Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Bialik, Ehrendoktor der Universität Tel Aviv, honorary citizen of Jerusalem Edit this on Wikidata
llofnod

Prif weinidog cyntaf Israel oedd David Ben-Gurion (Hebraeg:דָּוִד בֶּן-גּוּרִיּוֹן, ganed fel David Grün (16 Hydref 18861 Rhagfyr 1973).[1]

Ganed Ben-Gurion yn Płońsk, Gwlad Pwyl yn awr, ond yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Cyfreithiwr oedd ei dad, Avigdor Grün; bu farw ei fam, Scheindel, pan oedd yn 11 oed. Roedd y teulu yn gefnogwyr brwd i Seioniaeth. Ymfudodd Ben-Gurion i Balesteina yn 1906, a bu'n gweithio mewn amaethyddiaeth yno ar y dechrau. Yn 1912 symudodd i Istanbul i astudio'r gyfraith, a newidiodd ei gyfenw i Ben-Gurion.

Ar y pryd roedd Palesteina yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd, ac yn 1915 taflwyd ef o'r wlad oherwydd ei weithgareddau gwleidyddol, Ymsefydlodd yn Efrog Newydd, lle priododd Paula Munweis yn 1917. Yn dilyn Datganiad Balfour yn Nhachwedd 1917, ymunodd â Lleng Iddewig y fyddin Brydeinig. Dychwelodd i Balesteina, oedd yn awr dan reolaeth fiwlrol Brydeinig, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yn amlwg yn y mudiad cenedlaethol a'r Yishuv (y gymuned Iddewig ac egin wladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina cyn annibyniaeth), gan ddod yn ysgrifennydd y mudiad llafur Iddewig Histadrut, ac o 1930 ymlaen yn arweinydd Mapai, y blaid lafur Seionaidd.

Cyhoeddodd Ben Gurion sefydliad gwladwriaeth Israel ar 14 Mai 1948, a daeth yn Brif Weinidog y wlad newydd. Bu ganddo ran amlwg yn y Nakba (y carthu ethnig a brofodd y Palestiniaid er mwyn sicrhau mwyafrif Iddewig yn y wladwriaeth newydd) [2] a'r rhyfel rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd cyfagos a ddilynodd. Heblaw am gyfnod o ddwy flynedd rhwng 1954 a 1955, bu yn y swydd hyd 1963.[3] Ymddiswyddodd yn 1963, a dilynwyd ef gan Levi Eshkol. Ffraeodd ag Eshkol y flwyddyn wedyn, a ffurfiodd blaid newydd, Rafi, a enillodd ddeg sedd yn y Knesset. Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn 1970.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ben‐Gurion Is Dead at 87; Founding Father of Israel". New York Times (yn Saesneg). 2 Rhagfyr 1973.
  2. Pappe, Ilan (2006). The Ethnic Cleansing of Palestine. London: Oneworld. tt. xi. ISBN 978-1-85168-555-4.
  3. Anita Shapira (25 Tachwedd 2014). Ben-Gurion: Father of Modern Israel (yn Saesneg). Yale University Press. t. 173. ISBN 978-0-300-18273-6.