Cân brotest

Oddi ar Wicipedia
Cân brotest
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol, song type Edit this on Wikidata
Mathcân amserol Edit this on Wikidata
Prif bwncprotest Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Diwylliant Poblogaidd
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Mae Cân brotest yn ffordd o brotestio a ddefnyddiwyd o’r 1950au ymlaen yn enwedig i fynegi teimladau a phersbectif a safbwynt personol ar faterion cyfoes, gwleidyddol a chymdeithasol. Daeth steil cerddoriaeth yn elfen ganolog i’r mynegiant hwn ac roedd y ‘gân brotest’ yn enwedig o boblogaidd fel cyfrwng, neu genre o gerddoriaeth, wrth gyfathrebu meddylfryd pobl ifanc i weddill y gymdeithas.

Roc a rôl[golygu | golygu cod]

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd datblygodd cerddoriaeth i fod yn ddylanwad mawr ar fywydau pobl ifanc. Gwelwyd cerddoriaeth fel ffordd i bobl ifanc fynegi eu teimladau, eu barn a’u safbwynt am faterion oedd yn bwysig iddyn nhw.

Yn ystod y 1950au roedd ‘Roc a rôl’ yn ddylanwad pwysig a phwerus mewn cerddoriaeth, ac roedd Elvis Presley yn llwyddiant ysgubol, gyda chaneuon fel ‘Heartbreak Hotel’ a ‘Hound Dog’ yn cyrraedd brig y siartiau yn Unol Daleithiau America. Daeth Elvis yn boblogaidd ar draws y byd ond roedd llawer o rieni yn ei gasáu oherwydd ei agwedd wrthryfelgar. Gwelent ef fel dylanwad gwael ar bobl ifanc ac yn fygythiad i’r gwerthoedd roedd eu cenhedlaeth nhw yn eu harddel. Roedd ei arddull rywiol o berfformio, ei ymddygiad a’i ffordd o wisgo yn cael eu gweld fel dylanwadau gwael ar bobl ifanc.

Ond roedd pobl ifanc erbyn y 1950au yn defnyddio cerddoriaeth i fod yn wahanol ac i wrthryfela yn erbyn gwerthoedd a ffordd o fyw eu rhieni.[1]

Y 1960au[golygu | golygu cod]

John[dolen marw] Lennon yn ymarfer yr anthem i wrthwynebu'r rhyfel yn Fietnam, "Give Peace a Chance" (1969)

Roedd y 1960au yn gyfnod o newid cymdeithasol enfawr ac roedd caneuon protest yn ffordd boblogaidd o brotestio yn erbyn y sefydliad.

Gyda bandiau sgiffl yn dechrau defnyddio offerynnau trydanol, crëwyd eu fersiwn eu hunain o roc a rôl, y cyfeirir ato weithiau fel ‘miwsig roc’ (beat music) oherwydd rhythmau gwthiol y caneuon ac ôl-guriad y drymiau. Roedd y bandiau hyn, fel The Beatles, The Rolling Stones, The Kinks, a The Who wedi dod dan ddylanwad amrywiaeth eang o recordiau roc a rôl a rhythm a’r felan (R&B: rhythm and blues) o America.

Ym 1965, roedd dynwarediad y canwr roc gwerin Donovan o'r gân wrth-ryfel "Universal Soldier" gan Buffy Sainte-Marie yn boblogaidd yn y siartiau. Ymddangosodd ei gân brotest yn erbyn Rhyfel Fietnam "The War Drags On" yr un flwyddyn. Roedd hon yn duedd gyffredin yng ngherddoriaeth boblogaidd y 1960au a'r 1970au. Fe ildiodd geiriau rhamantus caneuon pop y 1950au i eiriau protest.[2]

Wrth i’w henwogrwydd gynyddu ddiwedd y 1960au, ychwanegodd The Beatles - a John Lennon yn benodol - eu lleisiau at y neges wrth-ryfel. Ym 1969, pan briododd Lennon ag Yoko Ono, fe wnaethant gynnal wythnos "bed-in for peace" yn yr Hilton yn Amsterdam, gan ddenu sylw'r cyfryngau ledled y byd.[3] Ym mis Mehefin 1969, fe wnaethant recordio "Give Peace a Chance" yn eu hystafell westy. Canwyd y gân gan dros hanner miliwn o brotestwyr yn Washington, DC, yn ystod ail Ddiwrnod Moratoriwm Fietnam, ar 15 Hydref 1969.

Yn America roedd cantorion megis Bob Dylan, Joan Baez a Neil Young yn ysgrifennu a pherfformio caneuon protest. Cynhyrchodd Dylan nifer o ganeuon protest nodedig, megis "Blowin 'in the Wind" (1962), "Masters of War" (1963), "Talking World War III Blues" (1963), a "The Times They Are A-Changin"(1964).

Roedd llawer o gantorion cerddoriaeth yr enaid yn y cyfnod, fel Sam Cooke yn canu "A Change Is Gonna Come" (1965), Otis Redding ac Aretha Franklin "Respect", James Brown "Say It Loud - I'm Black and I'm Proud " (1968), Curtis Mayfield & The Impressions "We're a Winner" (1967), a Nina Simone "To Be Young, Gifted and Black". Roeddent yn ysgrifennu a pherfformio caneuon protest oedd yn mynd i'r afael â'r galw cynyddol am hawliau cyfartal i Americanwyr Affricanaidd fel rhan o'r mudiad hawliau sifil.

Glam roc a phync[golygu | golygu cod]

Johnny Rotten o The Sex Pistols

Fe wnaeth cenhedlaeth newydd o gerddorion eu henw yn y 1970au cynnar gyda cherddoriaeth bop drydanol uchel a oedd yn mynd law yn llaw â ffasiwn pryfoclyd a syniadau dadleuol. Arweiniodd yr 1960au optimistaidd at 1970au mwy digalon, ac roedd pobl ifanc eisiau gwrando ar gerddoriaeth a oedd yn caniatáu iddyn nhw ddianc rhag realiti a oedd yn mynd yn fwyfwy llwm. Roedd glam roc yn uchel ac yn llachar ac yn herio llawer o’r syniadau parod am beth oedd yn dderbyniol o ran gwisgoedd ac agweddau at rywioldeb. Byddai cantorion a cherddorion yn gwisgo dillad pryfoclyd, yn aml yn seiliedig ar hen wisgoedd a dyluniadau o Hollywood. Roedd perfformwyr gwrywaidd yn fodlon cael eu gweld yn gwisgo esgidiau sodlau platfform uchel, llwch disglair a cholur.

Fe wnaeth y band T. Rex berfformio eu sengl "Hot Love" ar Top of the Pops yn 1971, sy’n cael ei ystyried fel y perfformiad ‘glam roc’ cyhoeddus cyntaf, wrth i'r canwr Bolan wisgo trowsus satin llachar a llwch disglair o amgylch ei lygaid. Daeth caneuon T-Rex yn fwy rhywiol ar ôl hyn, fel ‘Get It On’. Roedd David Bowie yn chwarae â’i ddelwedd glam roc yn fwriadol, gan fynd yn fwy androgynaidd, nid yn unig yng ngeiriau ei ganeuon (‘You’ve got your mother in a whirl/ She’s not sure if you’re a boy or a girl’ – ‘Rebel Rebel’) ond hefyd gyda’i bersona ar y llwyfan, sef Ziggy Stardust.

Erbyn ail hanner yr 1970au, roedd llawer o bobl ifanc wedi’u dadrithio gan ddiweithdra cynyddol, ac roedd llawer yn credu nad oedd ganddyn nhw lawer i edrych ymlaen ato. Fe wnaeth Tony Parsons, newyddiadurwr cerddoriaeth ar gyfer NME a oedd yn ysgrifennu yn 1976, alw pync yn ‘roc a rôl ciw’r dôl’. Daeth pync-roc, sef sŵn uchel ac amrwd iawn a wnaethpwyd gan bobl ifanc yn aml heb lawer o sgiliau cerddorol, yn ffordd i’r bobl ifanc blin hyn yn eu harddegau fynegi eu hunain. Roedd geiriau pync yn fwriadol bryfoclyd, gan ymosod ar y Teulu Brenhinol, swyddi nad oedden nhw’n mynd i unman, yr heddlu, rhyfel, anarchiaeth, terfysgoedd a phrynwriaeth (consumerism). Agwedd oedd yn bwysig i gerddoriaeth pync, nid sgil.

Roedd caneuon protest mwyaf arwyddocaol y mudiad yn cynnwys "God Save the Queen" (1977) gan y Sex Pistols, "If the Kids are United" gan Sham 69, "Career Opportunities" (1977), "White Riot" (1977) gan The Clash, a "Right to Work" gan Chelsea.[1] Roedd Jiwbilî Arian y Frenhines yn 1977 yn creu cyfle delfrydol i'r Sex Pistols hawlio cyhoeddusrwydd drwy ymosod ar y frenhiniaeth a’r llywodraeth. Arestiwyd sawl un ar ôl i’r band ganu eu cân wrth-frenhiniaeth ‘God Save The Queen’ gyferbyn â’r Senedd oddi ar gwch ar afon Tafwys.

Caneon Protest Cymraeg[golygu | golygu cod]

Roedd Cymru’r 60au a'r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond yr hyn a wthiodd cerddoriaeth bop Gymraeg yn ei blaen oedd y gân brotest. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Diwylliant Poblogaidd" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 11 Mehefin 2020.
  2. Anderson, Terry H.. "American Popular Music and the War in Vietnam". Peace & Change. http://web.ebscohost.com.www2.lib.ku.edu:2048/ehost/pdfviewer/pdfviewer?vid=21&hid=123&sid=1c13513c-da4d-4bc6-af4d-ddf8e99df995%40sessionmgr114. Adalwyd December 4, 2011.
  3. Williams, Precious (2002-05-19). "Eternal Flame". scotsman.com. Cyrchwyd December 20, 2007.
  4. "Cân o Gymru i ganwr o Chile". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2012-09-10. Cyrchwyd 2020-06-10.