Summer of Love

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gŵyl 'Fantasy Fair and Magic Mountain Music Festival' yng Nghaliffornia, 1967
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Diwylliant Poblogaidd, c.1951-1979
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Ymestynnodd Haf Cariad neu The Summer of Love dros gyfnod haf 1967 pan ddaeth tua 100,000 o bobl ifanc, yn bennaf hipis o ran eu gwisg a’u hymddygiad, i ardal Haight-Asbury yn San Francisco.[1][2]

Roedd hwn yn fath o arbrawf cymdeithasol lle gwnaeth pobl a oedd yn credu mewn gwerthoedd hipi ddod at ei gilydd i ddathlu ac i rannu eu gwerthoedd. Roedd y gwerthoedd a’r daliadau hyn yn golygu byw bywyd yr hipi gan wrando ar gerddoriaeth hipi, defnyddio cyffuriau, coleddu agwedd gwrth-ryfel a chredu mewn cariad rhydd. Roedd yn ffordd o fyw a oedd yn boblogaidd o arfordir gorllewinol America draw hyd at Efrog Newydd.[3]

Roedd ‘Plant y Blodau’, fel roedd hipis yn cael eu hadnabod hefyd, yn ddrwgdybus o’r Llywodraeth, ac wedi colli ffydd yn yr awdurdodau a ffordd o fyw eu rhieni, a oedd yn cael eu gweld fel rhan o’r drefn draddodiadol. Roeddent yn gwrthod gwerthoedd materol cymdeithas modern ac yn feirniadol o ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam. Ymddiddorai eraill mewn cerddoriaeth, arlunio, llenyddiaeth a barddoniaeth neu mewn crefyddau ac arferion gwahanol.

Diwylliant San Francisco[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd awduron a oedd yn perthyn i Genhedlaeth Beat y 1950au wedi bod yn allweddol o ran helpu i greu’r diwylliant a arweiniodd at Haf Cariad 1967. Roedd awduron a beirdd fel Alan Ginsberg a Jack Kerouak wedi ysgrifennu am eu hanfodlonrwydd ag agweddau eu rhieni, gan ymosod ar fywyd diogel y genhedlaeth honno. Roedd hipis 1967 yn pwysleisio gwerthoedd fel rhannu a phwysigrwydd y gymuned.[4] Cafodd Siop Rhad ac am Ddim ei sefydlu gan y ‘Diggers’ a darparwyd triniaeth feddygol am ddim mewn Clinig Rhad ac am Ddim.[5]

Pobl ifanc yn cyrraedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod gwanwyn 1967 dechreuodd nifer cynyddol o fyfyrwyr ysgolion uwchradd a cholegau gyrraedd ardal Haight-Ashbury yn San Francisco. Mewn ymdrech i rwystro rhagor o bobl ifanc rhag dod i’r ardal ar ôl i’r ysgolion gau am yr haf, cyhoeddodd y swyddogion lleol bod angen lleihau’r mewnlifiad. Cyhoeddwyd erthyglau mewn papurau lleol yn amlygu bod nifer cynyddol o hipis yn dod i mewn i’r ardal, ac mewn ymateb i’r datblygiadau hyn ffurfiwyd Cyngor gan drigolion Haight-Ashbury, sef Cyngor Haf Cariad, a roddodd yr enw i’r digwyddiad.

Denodd Haf Cariad 1967 sylw'r cyfryngau a’r wasg ar draws America a’r byd. Bu’r cyfryngau yn tynnu sylw at ddigwyddiadau eraill yng Nghaliffornia a oedd yn rhan o ddigwyddiadau Haf Cariad 1967, fel Fantasy Fair and Magic Mountain Music Festival, Monterey Pop Festival, y naill a'r llall wedi eu cynnal ym Mehefin 1967. Denodd Monterey tua 30,000 o bobl ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl gerddorol, gyda’r niferoedd yn cynyddu i 60,000 ar y diwrnod olaf.[6]

Gorymdaith yn erbyn Rhyfel Fietnam yn San Francisco ar Ebrill 15, 1967

Ar ddiwedd y 1960au dechreuwyd cynnal gwyliau awyr agored mawr, di-dâl, lle gallai cynulleidfaoedd wrando ar amrywiaeth eang o berfformiadau cerddorol gan rai o fandiau ac artistiaid mwyaf poblogaidd y cyfnod, fel rhan o symudiad yr hipis yn yr 1960au. Roedd digwyddiadau fel y Monterey Pop Festival yn 1967 a’r Woodstock Music and Art Fair yn 1969 wedi dod â’r gwyliau awyr agored hyn i’r amlwg i bobl Unol Daleithiau America ac i weddill y byd.[7] Bu darllediadau'r wasg o Ŵyl Bop Monterey yn ffordd bwysig o boblogeiddio digwyddiadau Haf Cariad 1967 wrth i nifer uchel o hipis deithio i Califfornia i glywed bandiau fel The Who, Grateful Dead, The Animals, The Jimi Hendrix Experience, Otis Redding, The Byrds a Janis Joplin yn canu.[8]

Problemau[golygu | golygu cod y dudalen]

Denodd Haf Cariad 1967 ac ardaloedd Haight-Ashbury, San Francisco, Berkeley a dinasoedd eraill yn Ardal Bae San Francisco, gymaint â 100,000 o bobl ifanc o bob rhan o'r byd i ymuno mewn dathliad o wahanol fathau ac agweddau ar hipïaeth. Methodd ardal Haight-Ashbury ymdopi â’r niferoedd enfawr a gyrhaeddodd yr ardal, gyda phroblemau fel gor-boblogi, digartrefedd, tlodi, cyffuriau a chynnydd mewn tor-cyfraith yn effeithio’n ddirfawr ar fywyd y trigolion lleol. Roedd defnyddio cyffuriau seicedelig yn gyffredin iawn. Gwelwyd cyffuriau fel LSD fel ffordd o chwilio am ffyrdd newydd o arbrofi, ac fel ffordd newydd o fynegi a dod yn ymwybodol o fodolaeth yr unigolyn. Roedd arbrofi gyda chyffuriau yn cael ei weld fel rhan o ddatblygiad personol unigolyn.[9]

Gwyliau awyr agored ym Mhrydain[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaethpwyd sawl ymgais nodedig i gynnal gwyliau am ddim yn y Deyrnas Unedig hefyd. Cynhaliodd The Rolling Stones gyngerdd awyr agored am ddim i 250,000 o gefnogwyr yn Hyde Park, Llundain, ym mis Gorffennaf 1969 – hon oedd y sioe gyntaf gyda’r gitarydd newydd Mick Taylor, ac fe wnaeth y prif ganwr Mick Jagger ddarllen rhywfaint o farddoniaeth a rhyddhau gloÿnnod byw gwyn er cof am gyn-aelod o’r band, Brian Jones, a fu farw ychydig ddiwrnodau ynghynt.

Dechreuodd Gŵyl Ynys Wyth yn 1968, ac erbyn mis Awst 1970 cafwyd cynulleidfa o 600,000 o bobl yno; roedd y digwyddiad yn cynnwys dros hanner cant o berfformiadau cerddorol gan bobl fel The Who, Jimi Hendrix a The Doors.

Aeth 1,500 o bobl i'r Pilton Pop, Blues and Folk Festival yn 1970 i weld y band Tyrannosaurus Rex (T-Rex yn ddiweddarach) yn cloi'r noson. Newidiwyd enw’r digwyddiad hwn i Glastonbury Fayre yn 1971, a David Bowie oedd un o’r prif artistiaid y flwyddyn honno.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. E. Vulliamy, "Love and Haight", Observer Music Monthly May 20, 2007
  2. P. Braunstein, and M.Doyle (eds), Imagine Nation: The American Counterculture of the 1960s and '70s, (New York, 2002), p.7
  3. P. Braunstein, and M.Doyle (eds), Imagine Nation: The American Counterculture of the 1960s and '70s, (New York, 2002), p.7
  4. "Counterculture". Smith.edu (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 16, 2017. Cyrchwyd August 16, 2017.
  5. M. Isserman, and M. Kazin (eds), America Divided: The Civil War of the 1960s, (Oxford University Press, 2004), pp.151–172
  6. T. Anderson, The Movement and the Sixties: Protest in America from Greensboro to Wounded Knee, (Oxford University Press, 1995), p.175
  7. 7.0 7.1 "Diwylliant poblogaidd" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 15 Mehefin 2020.
  8. T. Gitlin, The Sixties: Years of Hope, Days of Rage, (New York, 1993), p.215–217
  9. J. McDonald quoted in E. Vulliamy, "Love and Haight", Observer Music Monthly, 20 May 2007