The Doors
Jump to navigation
Jump to search
The Doors | |
![]() | |
Logo'r band | |
---|---|
Gwreiddiau | Los Angeles, Califfornia, ![]() |
Cefndir | Grŵp / band |
Math | Roc, Roc-blues, Roc-seicadelig, Roc-Asid, Roc caled |
Blynyddoedd | 1965 - 1973 Aduniadau rhannol: 1978, 1993, 2000) |
Label | Elektra, Rhino |
Aelodau presennol | Jim Morrison John Densmore Ray Manzarek Robby Krieger |
Gwefan | thedoors.com |
Band roc Americanaidd a ffurfiwyd ym 1965 yn Los Angeles, Califfornia gan y prif leisydd Jim Morrison, allweddellwr Ray Manzarek, drymiwr John Densmore, a'r gitarydd Robby Krieger oedd The Doors. Cânt eu hystyried yn fand dadleuol a dylanwadol, yn bennaf oherwydd geiriau anelwig Morrison a'i bersonoliaeth llwyfan annisgwyl. Ar ôl marwolaeth Morrison ar 3 Gorffennaf, 1971, parhaodd gweddill aelodau'r band fel triawd tan iddynt wahanu ym 1973.[1]
Er mai dim ond am wyth mlynedd parhaodd gyrfa'r band, ystyrir The Doors yn fand cwlt ac yn fand llwyddiannus o safbwynt masnachol. Cânt eu hystyried yn hynod ddylanwadol a gwreiddiol. Yn ôl y RIAA, gwerthodd y band dros 32.5 miliwn o albymau yn yr Unol Daleithiau'n unig.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]