Thomas Vaughan
Thomas Vaughan | |
---|---|
Ffugenw | Eugenius Philalethes, Philalethes Eugenius, Cyraneus Philalethes |
Ganwyd | 17 Ebrill 1621 Sir Frycheiniog |
Bu farw | 27 Chwefror 1666 o gwenwyniad Albury |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, bardd, alchemydd |
Athronydd a bardd o Gymru oedd Thomas Vaughan (17 Ebrill 1621 – 27 Chwefror 1666). Roedd yn frawd gefaill i'r bardd Henry Vaughan (1621–1695).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Thomas Vaughan yn nhreflan fechan Trenewydd ym mhentref Sgethrog, Brycheiniog. Aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, yn 1638 gyda'i frawd Henry, gan aros yno am ddegawd dros gyfnod Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Pleidiodd achos y Brenhinwyr yn y rhyfeloedd hynny a chymerodd ran, gyda'i frawd mewn ysgarmes yng Nghastell Beeston dan y Cyrnol Herbert Pryce.
Fe'i gwnaed yn offeiriad Eglwys y Santes Ffraid yn Llansantffraed, Sir Frycheiniog, gan astudio meddygaeth yr un pryd. Roedd yn synnu'n fawr nad oedd llawer o feddygon yng Nghymru. Fe'i taflwyd o'r plwyf yn 1650 dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru oherwydd ei gydymdeimlad â'r Brenin. Priododd Rebecca yn 1651 a symudodd y ddau i fyw yn Llundain ond bu hi farw yn 1658.
Bu farw yn 1666. Cafodd ei gladdu yn Llansantffraid-ym-Mechain.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Sgwennodd sawl llyfr, yn cynnwys Anthroposophia ynglŷn â chyfriniaeth yr alcemydd. Mae'n fwy na thebyg iddo sgwennu wrth y ffug enw "Eugenius Philalethes", hefyd. Mae'n awdur sawl cerdd yn y Lladin a'r Saesneg.