Castell y Felallt
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Castell Beeston)
Math | hilltop castle |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Beeston |
Sir | Beeston |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 53.12815°N 2.6919°W |
Rheolir gan | English Heritage |
Perchnogaeth | Ranulf de Blondeville, 6ed Iarll Caer |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Sefydlwydwyd gan | Ranulf de Blondeville, 6ed Iarll Caer |
Manylion | |
Deunydd | tywodfaen |
Castell canoloesol yw Castell y Felallt ('Beeston Castle' yn Saesneg) a godwyd ar safle bryngaer yn Beeston, Swydd Gaer (cyfeiriad grid SJ537593).[1] Fe'i lleolwyd ar gopa craig tywodfaen 350 tr (107 m) uwch llawr y dyffryn.
Fe'i codwyd gan Ranulf de Blondeville, 6ed iarll Caer, (1170–1232), wedi iddo ddychwelyd o'r Croesgadau. Yn 1237 fe'i cymerwyd gan Harri III, brenin Lloegr ac roedd mewn cyflwr da hyd at 16g. Aeth rhannau o'r castell yn adfeilion yn 1646, wedi i filwyr Cromwell fynd i'r afael a'r lle.[2] Mae nifer o feirdd Cymraeg, gan gynnwys Guto'r Glyn, Lewys Glyn Cothi, Dafydd Llwyd o Fathafarn, Ieuan Llwyd Brydydd, a Siôn Ceri yn cyfeirio at y castell ar y Felallt.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Beeston Castle", Atlas of Hillforts; adalwyd 5 Medi 2020
- ↑ National Heritage List for England; Walls, towers and gatehouse of the inner bailey at Beeston Castle; adalwyd 1 Rhagfyr 2012.
- ↑ Guto'r Glyn.net, adalwyd 26 Hydref 2020.