Castell y Felallt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell y Felallt
Beeston Castle (5369).jpg
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1220s Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBeeston Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.12815°N 2.6919°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
PerchnogaethRanulf de Blondeville Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddTywodfaen Edit this on Wikidata

Castell canoloesol yw Castell y Felallt ('Beeston Castle' yn Saesneg) a godwyd ar safle bryngaer yn Beeston, Swydd Gaer (cyfeiriad grid SJ537593).[1] Fe'i lleolwyd ar gopa craig tywodfaen 350 tr (107 m) uwch llawr y dyffryn.

Castell y Felallt

Fe'i codwyd gan Ranulf de Blondeville, 6ed iarll Caer, (1170–1232), wedi iddo ddychwelyd o'r Croesgadau. Yn 1237 fe'i cymerwyd gan Harri III, brenin Lloegr ac roedd mewn cyflwr da hyd at 16g. Aeth rhannau o'r castell yn adfeilion yn 1646, wedi i filwyr Cromwell fynd i'r afael a'r lle.[2] Mae nifer o feirdd Cymraeg, gan gynnwys Guto'r Glyn, Lewys Glyn Cothi, Dafydd Llwyd o Fathafarn, Ieuan Llwyd Brydydd, a Siôn Ceri yn cyfeirio at y castell ar y Felallt.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Beeston Castle", Atlas of Hillforts; adalwyd 5 Medi 2020
  2. National Heritage List for England; Walls, towers and gatehouse of the inner bailey at Beeston Castle; adalwyd 1 Rhagfyr 2012.
  3. Guto'r Glyn.net, adalwyd 26 Hydref 2020.