Brynach Wyddel

Oddi ar Wicipedia
Brynach Wyddel
Sant Brynach. Ffenestr gwydr lliw yng Nghapel Non, Eglwys Gadeiriol Tyddewi
GanwydGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
Nanhyfer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcenhadwr, arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl7 Ebrill Edit this on Wikidata
PriodCymorth Edit this on Wikidata
PlantMynfer ach Brynach, Morwenna, Mabyn ach Brynach, Endelyn ach Cynyr Edit this on Wikidata

Sant o ddechrau'r 6g oedd Brynach Wyddel.

Hanes a thraddodiadau[golygu | golygu cod]

Ceir buchedd iddo yn dyddio o'r 12g, lle dywedir iddo fynd ar bererindod i Rufain ac yna fyw yn Llydaw am gyfnod cyn symud i Gymru. Dywedir iddo lanio yn Aberdaugleddau yn Nyfed, ac yna ymsefydlu ger Afon Nanhyfer. Dywed traddodiad arall iddo fod yn gaplan i Frychan, brenin Brycheiniog. Enwyd nifer o leoedd ar ei ôl, yn cynnwys Llanfrynach ym Mhowys a Llanfyrnach yn sir Benfro.

Adfeilion Eglwys Sant Brynach, Cwm yr Eglwys, Sir Benfro.

Adroddir nifer o chwedlau amdano. Dywedir fod ganddo fuwch oedd yn rhoi cymaint o laeth nes bod digon i'r myneich i gyd, a blaidd dof yn ei gwarchod. Un diwrnod daeth Maelgwn Gwynedd a'i osgordd ar ymweliad, gan fynnu cael eu bwydo. Pan wrthdododd Brynach, lladdasant y fuwch, ond pan geisiasant goginio'r cig, ni allent gael y dŵr i ferwi. Sylweddolodd Maelgwn ei fai ac ymddiheruodd. Adferodd Brynach y fuwch, a gwnaeth i wledd wyrthiol ymddangos, gan dynnu bara o frigau'r coed.

Dethlir ei ddydd gŵyl ar 7 Ebrill.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]