Isambard Kingdom Brunel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Isambard Kingdom Brunel
IKBrunelChains.jpg
Ganwyd 9 Ebrill 1806 Edit this on Wikidata
Portsmouth Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Medi 1859 Edit this on Wikidata (53 oed)
Achos: Strôc Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Caen Normandy
  • Lycée Henri-IV
Galwedigaeth peiriannydd sifil, peiriannydd mecanyddol, pensaer, peiriannydd Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Royal Albert Bridge, Clifton Suspension Bridge, Rheilffordd y Great Western, SS Great Britain Edit this on Wikidata
Tad Marc Isambard Brunel Edit this on Wikidata
Mam Sophia Kingdom Edit this on Wikidata
Plant Henry Marc Brunel Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
Llofnod
Isambard Kingdom Brunel signature.svg

Peiriannydd Seisnig oedd Isambard Kingdom Brunel (9 Ebrill 180615 Medi 1859).

Ganed ef yn Portsmouth, yn fab i'r peiriannydd Marc Isambard Brunel, oedd yn Ffrancwr alltud. Erbyn oedd yn 20 oed, roedd yn gyfrifol am adeiladu Twnel Tafwys, dan afon Tafwys yn Llundain, y twnel cyntaf dan afon oedd yn ddigon mawr i'w defnyddio gan longau.

Bu'n gyfrifol am nifer o bontydd adnabyddus, yn cynnwys Pont Grog Clifton ger afon Avon gerllaw Bryste. Ef oedd prif beiriannydd Rheilffordd y Great Western rhwng Llundain a Bryste. Adeiladodd nifer o longau ager; yn cynnwys yr S.S. Great Britain a'r Great Eastern.

Bu'n gyfrifol am nifer o brosiectau peiriannol yn ne Cymru.