SS Great Britain

Oddi ar Wicipedia
SS Great Britain
Enghraifft o'r canlynolpassenger vessel, agerlong, amgueddfa annibynnol, museum ship Edit this on Wikidata
GwladTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
PerchennogGreat Western Steamship Company Edit this on Wikidata
Yn cynnwyshwylbren SS Great Britain,Victory Green, Stanley, Ynysoedd y Falklands Edit this on Wikidata
Map
GweithredwrGreat Western Steamship Company Edit this on Wikidata
GwneuthurwrWilliam Patterson Shipbuilders Edit this on Wikidata
Enw brodorolSS Great Britain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Bryste Edit this on Wikidata
Hyd98.15 metr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ssgreatbritain.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
SS Great Britain ym Mryste

Cyn-agerlong yw SS Great Britain, sydd nawr yn amgueddfa forwol. Roedd y llong yn o flaen ei oes, yn defnyddio technolegau newydd am y tro cyntaf, a hi oedd llong deithiwr hiraf y byd rhwng 1845 ac 1854. Cafodd ei ddylunio gan Isambard Kingdom Brunel ar gyfer wasanaeth trawsatlantaidd y Great Western Steamship Company rhwng Bryste ac Efrog Newydd. Tra oedd llongau eraill wedi'i greu o haearn, hi oedd yr un cyntaf i ddefnyddio propelor sgriw. Hi oedd yr agerlong haearn cyntaf i groesi cefnfor yr Iwerydd, gwnaeth hyn yn 1845 mewn 14 diwrnod. Mae gan y llong hyd 322 ft (98m) a dadleoliad 3,400 tunnell. Roedd ganddo bedwar bwrdd long a darparodd preswyl ar gyfer criw o 120 person, a chabannau ar gyfer 360 o deithwyr, yn cynnwys lle ar gyfer ciniawa.

Pan gafodd ei lansio ym 1843 SS Great Britain oedd y llong fwyaf o bell mewn gwasanaeth. Ond oherwydd ei amser adeiladu disgwyliedig (chwe blwyddyn o 1836-1845) a'i chost uchel, gadawodd hi ei pherchnogion mewn sefyllfa ariannol anodd, ac o ganlyniad aethant allan o fusnes yn 1846. Yn ddiweddarach cariodd SS Great Britain miloedd o ymfudwyr i Awstralia o 1852 nes cafodd ei addasu i long hwylio yn 1881. Tair blwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei ymddeol yn Ynysoedd y Falklands, lle ddefnyddiwyd hi fel ystordy, llong cwarantîn, a llong foel glo. Cafwyd ei suddo yn fwriadol ym 1937, 98 flwyddyn ar ôl dechrau ei adeiladu.[1]

Ym 1970, 33 blwyddyn ar ôl iddi gael ei chyfradael a gorwedd ar waelod y môr, talodd Sir Jack Arnold Hayward, OBE (1923-2015) i godi a thrwsio'r llong er mwyn ei dowio yn ôl i Fryste. Nawr mae'n rhan o'r Fflyd Hanesyddol Genedlaethol, ac y mae'n atyniad twristiaid ac amgueddfa, yn denu rhwng 150,000 a 200,000 ymwelwyr y flwyddyn.

Lansiad[golygu | golygu cod]

Ail-adeiladiad o ystafell cinio SS Great Britain

Lansiwyd y llong ar 19 Gorffennaf 1843. Cyrhaeddodd y Tywysog Albert i orsaf y Great Western Railway am 10am ar y trên brenhinol o Lundain, a chyfarwyddwyd gan Brunel ei hun. Roedd gosgordd er anrhydedd iddo wedi'i gyfansoddi o aelodau'r heddlu, milwyr, a dragwniaid. Wrth i'r Tywysog ymadael y trên chwaraeodd band cyfansoddiadau gan Labitsky a chasgliad o'r "Ballet of Alma". Gwneir cyflwyniadau, a chyfeiriad i'r Tywysog gan glerc y dref, D. Burgess, ac roedd areithiau gan aelodau o offeiriaid Bryste. Yna cafodd y parti brenhinol brecwast, ac ar ôl 20 munud ymddangoson nhw eto mewn ceir a cheffylau. Cyrhaeddodd y tywysog y llong am hanner dydd, ond erbyn hynny roedd y llong wedi'i ei lansio'n barod, ac oedd yn aros am yr archwiliad brenhinol. Aeth ar y llong ar gyfer yr archwiliad, a chafodd ei groesawu yn ystafell cinio'r llong.[2]

Ar ôl y cinio gadawodd am y seremoni enwi. Byddai Clarissa (1790-1868), mam aelod seneddol Briste Philip William Skinner Miles (1816-1881), yn perfformio'r bedydd. Pan daflodd hi'r potel siampên i flaen y llong roedd y llong barod wedi dechrau gadael y porth, a chwmpodd 3m yn fryn. Yn gloi cipiodd y Tywysog Albert potel arall o siampên a daflodd yn erbyn corff y llong yn lwyddiannus.[3]

Gwasanaeth[golygu | golygu cod]

Cafodd yr SS Great Britain nifer o swyddi yn ystod ei bywyd, dros sban o 47 taith:

  • Gwasanaeth trawsatlantaidd: O 1845 i 1852 cwblhaodd SS Great Britain chwe thaith o Lerpwl i Efrog Newydd a nôl.
  • Gwasanaeth Awstraliaidd: O 1852 i 1881 cwblhaodd 11 taith o Lerpwl i Melbourne a nôl, yn cludo ymfudwyr i'r wlad. Hefyd yn y cyfnod hwn defnyddiwyd y llong ar gyfer cwpl o deithiau i Efrog Newydd, ac un i India o'r Iwerddon.
  • Y rhyfel Crimea: Yn ystod Rhyfel y Crimea (1854-56), cymerodd y llong saib o'i gwasanaeth Awstralaidd pan ddrafftiwyd am wasanaeth yn cludo milwyr ar draws y Môr Canoldir[4].
  • Gyrfa hwyrach: Wedi ei wasanaeth Awstraliaidd cafwyd ei throi'n llong hwylio[5] aeth ar gwpl o deithiau i San Francisco fel llong cludo glo. Dechreuwyd ei thaith olaf o Benarth i Banama ar 8 Chwefror 1882[6]. Ar ôl tân dechrau ar y ffordd i Bort Stanley yn Ynysoedd y Falklands, dinistriwyd y llong gymaint ni ellir ei adfer, felly defnyddiwyd fel llong foel glo hyd at 1937, pan suddwyd y llong yn bwrpasol[5].

Adferiad[golygu | golygu cod]

Roedd prosiect achub y llong yn bosib diolch i nifer o gyfraniadau ariannol mawr, yn cynnwys gan Sir Jack Hayward a Sir Paul Getty. Siarterwyd ysgraff ymsuddol, y Mulus III, a chwch tynnu Almaeneg, y Varius II, ym mis Chwefror 1970. Cyrhaeddon nhw Bort Stanley ar 25 Mawrth 1970. Erbyn 13 Ebrill llwyddwyd rhoi SS Great Britain ar ben yr ysgraff, a theithiodd y tair ohonynt yn ôl o Bort Stanley. Gwnaeth y daith nôl i Brydain dechrau ar 24 Ebrill, yn stopio ym Montevideo, Dociau Barri, ac yna Dociau Avonmouth.[7]

Erbyn 1998 dangosodd archwiliad bod corff y llong dal i rydu, ac ond 25 blwyddyn oedd ar ôl nes iddo rydu'n llwyr[8]. Felly dechreuodd gwaith cadwraeth ar y corff, gan gynnwys rhoi rhan waelod y llong o dan wydr, a chadw lleithder y gofod yna o dan 20%. Ar ôl i'r gwaith cadwraeth orffen, fe "ail-lansiwyd" y llong ym mis Orffennaf 2005 fel atyniad twristiaid ac amgueddfa. Mae'r safle'n denu dros 150,000 ymwelwr y flwyddyn.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gibbs, Charles Robert Vernon (1957). Passenger Liners of the Western Ocean: A Record of the North Atlantic Steam and Motor Passenger Vessels from 1838 to the Present Day (yn Saesneg). J. De Graff.
  2. "Royal Visit". The Bristol Mirror. 20 July 1843.
  3. Brown, Paul (4 Awst 2009). Britain's Historic Ships: A Complete Guide to the Ships that Shaped the Nation (yn Saesneg). Bloomsbury USA. ISBN 978-1-84486-093-7.
  4. "The SS Great Britain & The Crimean War | Visit Bristol's No.1 Attraction | Brunel's SS Great Britain". www.ssgreatbritain.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-07. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2019.
  5. 5.0 5.1 "Salvage of S.S. Great Britain 1970" (PDF). 27 Mehefin 2015. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2019.
  6. "THE PENARTH MYSTERIES: No 2 – THE BURIED SECRETS OF PENARTH'S PLYMOUTH PARK | Penarth Daily News". web.archive.org. 13 Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-13. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2019.
  7. "Successfully salvaged". Bristol Evening Post. 1 Mawrth 2005.
  8. "ss Great Britain - Eura Conservation Ltd". web.archive.org. 2010-03-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-13. Cyrchwyd 2019-12-07.
  9. Leighton, D. (2010-04), Conway, A.; Baron, S.; Warnaby, G., eds., "Brunel's ss Great Britain" (yn en), Relationship Marketing : A Consumer Experience Approach (Sage), ISBN 978-1-4129-3122-9, http://www.uk.sagepub.com/books/Book230572#tabview=title, adalwyd 7 Rhagfyr 2019