Sarah Waters
Sarah Waters | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 21 Gorffennaf 1966 ![]() Neyland ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, ysgrifennwr ![]() |
Arddull | ffuglen hanesyddol, lesbian fiction ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Lambda, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, CWA Historical Dagger, OBE, Gwobr Somerset Maugham ![]() |
Gwefan | http://www.sarahwaters.com/ ![]() |
Awdures Gymreig sy'n ysgrifennu yn Saesneg yw Sarah Waters (ganed 21 Gorffennaf 1966), sydd fwyaf adnabyddus am ei nofelau sydd wedi eu gosod yng nghymdeithas Fictoraidd, megis Tipping the Velvet a Fingersmith.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Ganed Sarah Waters yn Neyland, Sir Benfro, yn ferch i Ron a Mary Walters. Gwraig tŷ oedd ei mam, peirianydd mewn purfa olew oedd ei thad, ac roedd ganddi chwaer.[1] Disgrifiai ei theulu fel un gweddol deniadol, hynod o ddiogel a magwriaethol, ac roedd ei thad yn berson arbennig o greadigol, a anogodd hi i adeiladu a dyfeisio.[2]
Mynychodd Ysgol Gyfun Aberdaugleddau cyn mynd ymlaen i astudio Saesneg, gan ennill gradd baglor o Brifysgol Caint, gradd meistr o Brifysgol Caerhirfryn, a Doethuriaeth o Brifysgol y Frenhines Mary, Llundain.[3] Fel rhan o'i ymchwil, darllenodd bornograffi'r 19g, ac yno daeth ar draws teitl ei nofel gyntaf, Tipping the Velvet.[4]
Mae Waters yn byw mewn fflat ar lawr uchaf tŷ Fictoraidd yn Kennington, de-ddwyrain Llundain.[1][4] Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg tra yn Llundain yn y City Lit. <www.citylit.ac.uk>
Cyn cychwyn ysgrifennu nofelau, gweithiodd Waters fel academydd, gan ennill doethuriaeth a dysgu eraill.[5] Cyn gynted ag y gorffennodd ei doethuriaeth, ysgrifennodd ei nofel gyntaf. Yn wir, tarddiad syniadau'r nofel oedd ei thesis.[2] Mae llawer iawn o ymchwil yn mynd i'w gwaith, ac mae'n mwynhau'r elfen honno o ysgrifennu am gyfnod arbennig.[6] Mae Waters yn aelod o gylch London North Writers, sydd wedi cynnwys yr awduron Charles Palliser a Neil Blackmore ymysg eraill.[7]
Heblaw am ei llyfr diweddaraf, The Little Stranger, mae ei holl nofelau'n dilyn themâu lesbiaidd.[6]
Tipping the Velvet (1998)[golygu | golygu cod]
Tipping the Velvet oedd ei nofel gyntaf, roedd yn waith picaresque Fictoraidd, a gyhoeddwyd gan Virago ym 1998. Cymerodd 18 mis i gwblhau'r nofel.[8] Mae'r nofel yn cymryd ei theitl o'r slang Fictoraidd am cunnilingus.[4] Enillodd wobr Betty Trask ym 1999, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Mail on Sunday/John Llewellyn Rhys.[4] Yn 2002, addaswyd y nofel yn gyfres deledu tair rhan ar gyfer BBC Two ac mae wedi cael ei chyfieithu i 24 o wahanol ieithoedd.[9]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf new: mae'r paramedr teitl yn angenrheidiol.
- ↑ 2.0 2.1 Michelle McGrane. "Sarah Waters on writing: 'If I waited for inspiration to strike, it would never happen!' (Interview)", LitNet, 2006.
- ↑ The thesis can be downloaded from the British Library's EthOS archive: uk.bl.ethos.393332
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Sarah Waters. Biography. sarahwaters.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2007. Adalwyd ar 24 Chwefror 2007.
- ↑ Benedicte Page. "Her Thieving Hands", Virago.
- ↑ 6.0 6.1 Malinda Lo. "Interview with Sarah Waters", AfterEllen.com, 6 Ebrill 2006.
- ↑ London North Writers.
- ↑ Ron Hogan. "Sarah Waters (Interview)", BookSense.com.
- ↑ "Sarah Waters: Interview", Time Out London.