Crach Ffinnant

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Crach Ffinant)
Crach Ffinnant
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Powys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd15 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaOwain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata

Brudiwr a bardd a gysylltir ag Owain Glyn Dŵr oedd Crach Ffinnant (fl. 1380au - 1400au).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Enw barddol yw Crach Ffinnant ; ni wyddys ei enw personol. Mae'n enghraifft dda o'r llysenwau difrïol a arferid gan nifer o Gymry'r Oesoedd Canol. Ceir cyfeiriad at 'Y Crach' fel enw bardd anhysbys ac mae'n bosibl mai Crach Ffinnant a olygir. Ceir mwy nag un lle o'r enw Ffinnant, e.e. Pont Ffinnant ger Dinas Mawddwy, ond does dim modd dweud fod Crach Ffinnant yn frodor o'r ardal honno, er ei bod yn bosiblrwydd.[1]

Ychydig o ffeithiau cadarn sydd ar gael amdano. Cofnodir iddo fynd i'r Alban gyda Owain Glyn Dŵr yn 1384 pan gafodd Glyn Dŵr a'i frawd Tudur eu gwysio gan Rhisiart II o Loegr i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill dan Syr Gregory Sais yng ngarsiwn Berwick. Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr Glyn Dŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar 16 Medi 1400, yng Nglyndyfrdwy, Meirionnydd, trwy gyhoeddi Glyn Dŵr yn Dywysog Cymru.[1]

Mae'n amlwg fod Crach Ffinnant wedi gwasanaethu fel bardd teulu i Glyn Dŵr ar fwy nag un achlysur, er na cheir testunau ganddo yn y llawysgrifau sydd wedi goroesi. Ymddiddorai Glyn Dŵr, fel pob Cymro bron, yn y brudiau, sef y daroganau ar gân a thestunau rhyddiaith sy'n ymwneud â daroganu dyfodiad y Mab Darogan i arwain y Cymry i fuddugoliaeth yn erbyn y Saeson. Mae'n rhesymol tybio, felly, fod Crach Ffinnant yn cynghori Glyn Dŵr ar faterion gwleidyddol a strategol yng nghyd-destun y brudiau (gwyddys fod Glyn Dŵr wedi ymgynghori â'r brudiwr ac ysgolhaig Hopcyn ap Tomas yn 1404, er enghraifft).[1]

Cof amdano[golygu | golygu cod]

Pan ddathlwyd ymosodiadau Glyn Dŵr ar Gaernarfon (ar bedwar achlysur, 1401-1404) yn 2004, cymerodd y bardd a cherddor Twm Morys ran Crach Ffinnant mewn pasiant i nodi'r achlysur.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995).
  2. AgenceBretagnePress.com