Tudur ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tudur ap Gruffudd neu Tudur ap Gruffudd Fychan (c.1357 - 1405) oedd un o ddau frawd Owain Glyndŵr ac un o gapteiniaid blaenaf y tywysog hwnnw.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Prin yw'r cofnodion penodol amdano. Cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1357, dwy neu dair mlynedd ar ôl geni Glyndŵr ei hun, yn fab i Gruffudd Fychan (m. cyn 1370) a'i wraig Elen ferch Tomas ap Llywelyn. Diau iddo gael ei fagu ar aelwyd Sycharth, maenordy y teulu.[1]

Bu Tudur yn gydymaith agos i Glyndŵr o'r cychwyn cyntaf. Cofnodir iddo fynd i'r Alban gyda'i frawd a'r brudiwr Crach Ffinnant yn 1384 pan gawsant eu gwysio gan y brenin Rhisiart II o Loegr i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill yng ngarsiwn Berwick. Ymddengys ei fod yno tan 1385. Ymhlith y milwyr yno oedd Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, a'i fab Hotspur; dau ŵr a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn nes ymlaen yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Roedd y brodyr gyda'i gilydd yng ngosgordd Iarll Arundel yn 1387 yn ogystal.[1]

Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr Glyndŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar 16 Medi 1400, yng Nglyndyfrdwy, Meirionnydd, trwy gyhoeddi Glyndŵr yn Dywysog Cymru. Cyfeirir ato fel arglwydd Gwyddelwern.[1]

Er na cheir cyfeiriadau ato yn bersonol, gellir derbyn fod Tudur wedi cymryd rhan mewn llawer o'r brwydro dros y blynyddoedd nesaf a welodd Glyndŵr yn ymestyn ei awdurdod dros rhan helaeth o'r wlad.[1]

Lladdwyd Tudur ym Mrwydr Pwll Melyn, ym mis Mai 1405.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995).