Henry Percy, Iarll 1af Northumberland

Oddi ar Wicipedia
Henry Percy, Iarll 1af Northumberland
Ganwyd10 Tachwedd 1341 Edit this on Wikidata
Scarborough Castle Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1408 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Riding Gorllewinol Swydd Efrog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadHenry de Percy Edit this on Wikidata
MamMary of Lancaster Edit this on Wikidata
PriodMargaret Neville, Matilda de Lucy Edit this on Wikidata
PlantHenry 'Hotspur' Percy, Sir Ralph de Percy, Sir Thomas Percy, Margaret de Percy Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Percy Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
Arfbais Henry Percy, Iarll 1af Northumberland

Uchelwr Seisnig oedd Henry Percy, Iarll 1af Northumberland (10 Tachwedd,1341 - 20 Chwefror,1408). Roedd yn fab i Henry de Percy, 3ydd Barwn Percy.

Roedd Henry Percy yn wreiddiol yng ngwasanaeth Edward III, brenin Lloegr, yma bu'n cefnogi Rhisiart II, brenin Lloegr am gyfnod. Yn ddiweddarach, tres i gefnogi Henry Bolingbroke, a ddaeth yn frenin fel Harri IV.

Dan Harri IV, gwnaed ef yn Gwnstabl Lloegr ac yn arglwydd Ynys Manaw. Cafodd ef a'i fab, Henry 'Hotspur' Percy, y dasg o orchfygu gwrthryfel Owain Glyndŵr yng Nghymru, ond nid oedd eu hymdrechion yn bodloni'r brenin. Yn 1403, gwnaeth Hotsput a'i ewythr gytundeb ag Owain Glyn Dŵr, a gwrthryfela yn erbyn y brenin. Lladdwyd Hotspur yn Mrwydr Amwythig yr un flwyddyn. Nid oedd yr Iarll ei hun wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel, ond collodd ei swydd fel Cwnstabl. Yn 1405, cefnogodd Percy wrthryfel Richard le Scrope, Archesgob Efrog, a gwnaeth y Cytundeb Tridarn gydag Owain Glyn Dŵr. Ffôdd i'r Alban, gan ddychwelyd gyda byddin yn 1408, ond lladdwyd ef ym mrwydr Bramham Moor.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Bean, J M W (26 Mai 2005). "Percy, Henry, first earl of Northumberland (1341–1408)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/21932. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2018.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)