Ardennes

Oddi ar Wicipedia
Ardennes
Mathlow mountain range, ardal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlArduinna Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWalonia, Ardennes Edit this on Wikidata
GwladGwlad Belg, Lwcsembwrg, Ffrainc Edit this on Wikidata
Arwynebedd76,422 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.25°N 5.67°E Edit this on Wikidata
Hyd389 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddRhenish Massif Edit this on Wikidata
Map

Bryniau yng Ngwlad Belg a Lwcsembwrg, a hefyd yn ymestyn fros y ffîn i Ffrainc yw'r Ardennes (Ffrangeg: Ardennes, Iseldireg: Ardennen). Cafodd département Ardennes a region Champagne-Ardenne yn Ffrainc eu henwau o'r bryniau.

Mae'r Ardennes yn ardal goediog, gyda bryniau tua 350–500 m (1,148-1,640 troedfedd) o uchder, ond yn cyrraedd 650 m (2,132 troedfedd) yn yr Hautes Fagnes (Hohes Venn) yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Belg. Llifa nifer o afonydd trwy'r bryniau; y pwysicaf yw Afon Meuse. Y dinasoedd mwyaf yw Verviers yng Ngwlad Belg a Charleville-Mézières yn Ffrainc.

Daw'r enw o Arduenna Silva, fforest enfawr yn y cyfnod Rhufeinig, oedd yn ymestyn o afon Sambre hyd afon Rhein. Enwyd y fforest ar ôl y dduwies Arduinna.

Oherwydd safle strategol yr Ardennes, bu llawr o ymladd yma tros y canrifoedd, yn cynnwys brwydrau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

Afon Semois, gerllaw Bouillon