La Rochelle
| Math | cymuned, dinas â phorthladd, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 79,851 |
| Pennaeth llywodraeth | Maxime Bono, Jean-François Fountaine |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Arrondissement of La Rochelle, Charente-Maritime |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 28.43 km² |
| Uwch y môr | 4 metr, 0 metr, 28 metr, 9 metr |
| Yn ffinio gyda | Aytré, L'Houmeau, Lagord, Périgny, Puilboreau, Rivedoux-Plage |
| Cyfesurynnau | 46.1594°N 1.1514°W |
| Cod post | 17000 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer La Rochelle |
| Pennaeth y Llywodraeth | Maxime Bono, Jean-François Fountaine |
![]() | |
Dinas a phorthladd ar arfordir gorllewinol Ffrainc yw La Rochelle (neu Rosiel[1] gynt). Hi yw prifddinas département Charente-Maritime. Gerllaw mae'r Île de Ré, a gysylltir a'r ddinas gan bont a adeiladwyd yn 1988. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 78,000.
Sefydlwyd La Rochelle yn ystod y 10g, a daeth yn harbwr pwysog o'r 12g. Yn 1137, gwnaeth Guillaume X, Dug Aquitaine y ddinas yn borthladd rhydd. Hyd y 15g, La Rochelle oedd y porthladd mwyaf ar arfordir gorllewinol Ffrainc.
Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, ymladdwyd Brwydr La Rochelle ar 22 Mehefin 1372. Gorchfygwyd llynges Seisnig gan lynges Ffrainc a Castille, gan ennill rheolaeth ar y môr i Ffrainc. Yn ddiweddarach, daeth La Rochelle yn ganolfan i'r Huguenotiaid o 1568 ymlaen. Gwarchaewyd arni yn 1572-1573 ac eto ym 1627-1628. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd gan yr Almaenwyr ganolfan llongau tanfor yma. La Rochelle oedd y ddinas olaf yn Ffrainc i'r rhyddhau o'u gafael, ar 8 Mai 1945.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, Heledd Haf (2012). "Cerddi mawl Robin Ddu o Fôn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-01. Cyrchwyd 2021-05-01.
