Essaouira

Oddi ar Wicipedia
Essaouira
Bab Sba, door to the medina (2901086603).jpg
Mathdinas, urban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth77,966 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAsma Chaabi Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLa Rochelle Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSouth Atlantic Coast (Morocco) Edit this on Wikidata
SirTalaith Essaouira Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd90 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr11 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.513023°N 9.768696°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAsma Chaabi Edit this on Wikidata
Map
Hen ddinas (medina) Essaouira
Golygfa stryd yn Essaouira

Dinas ar arfordir de-orllewinol Moroco yw Essaouira (Arabeg: الصويرة‎, eṣ-ṣauīrah; hen enw: Mogador). Mae'n gorwedd ar lan y Cefnfor Iwerydd i'r de o Casablanca ac mae'n brifddinas talaith Essaouira yn rhanbarth Marrakech-Tensift-El Haouz. Poblogaeth: tua 70,000 (2004).

Credir fod pobl yn byw yn yr ardal ers y cyfnod cynhanesyddol. Daeth y fforiwr a morwr enwog o Carthago, Hanno, yma yn y 5g CC ar ei fordaith ar hyd arfordir Affrica a sefydlu canolfan marchnad arfordirol. Am gyfnod bu ym meddiant Portiwgal ac mae rhai o adeiladau'r hen ddinas yn dyddio o'r cyfnod yma, fel y castell ger yr harbwr. Erbyn y 18g, Essaouira oedd porthladd pwysicaf de Moroco. Bu nifer o Iddewon yn byw yno yn y gorffennol ond mae'r mwyafrif llethol wedi gadael, fel yng ngweddill y Maghreb.

Mae medina Essaouira yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Flag of Morocco.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato