Hamm
Trem ar Hamm o'r awyr (2007). | |
| Math | dinas fawr, dinas Hanseatig, bwrdeistref trefol yr Almaen, ardal drefol Gogledd Rhine-Westphalia, Option municipality |
|---|---|
| Poblogaeth | 180,761 |
| Pennaeth llywodraeth | Marc Herter |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Oranienburg, Afyonkarahisar, Bradford, Chattanooga, Kalisz, Mazatlán, Toul, Crotone, Santa Monica, Mitte |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Regionalverband Ruhr |
| Sir | Ardal Llywodraethol Arnsberg |
| Gwlad | Yr Almaen |
| Arwynebedd | 226.43 km² |
| Uwch y môr | 63 metr |
| Gerllaw | Datteln-Hamm Canal |
| Yn ffinio gyda | Coesfeld, Ardal Warendorf, Soest, Unna, Ahlen, Welver, Drensteinfurt |
| Cyfesurynnau | 51.6814°N 7.8192°E |
| Cod post | 59001–59077 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Marc Herter |
![]() | |
Dinas yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen yw Hamm. Saif ar lannau afonydd Lippe ac Ahse ac ar hyd Camlas Lippe-Seiten, yng ngogledd-ddwyrain Ardal y Ruhr.
Sefydlwyd ym 1226 fel prifddinas Iarllaeth Mark, un o daleithiau Cylch y Rheindir Isaf a Westfalen yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Bu'n aelod ffyniannus o'r Cynghrair Hanseataidd nes i ryfeloedd yr 17g a'r 18g achosi dirywiad economaidd. Adfywiwyd y ddinas yn sgil y Chwyldro Diwydiannol yn y 19g. Cafodd Hamm ei bomio o'r awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd a dinistriwyd y mwyafrif o'r adeiladau. Ailadeiladwyd y ddinas wedi'r rhyfel, ac ym 1959 codwyd nendwr sy'n gartref i Oruchaf Lys Nordrhein-Westfalen.
Mae Hamm yn gyffordd rheilffyrdd bwysig. Prif ddiwydiannau'r ddinas yn yr 21g yw cynhyrchu gwifrau a cheblau, a'r sector electroneg. Mae ambell safle ddiwydiannol drom o hyd yn y ddinas, a phyllau glo yn y cyffiniau.[1]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Selma Ergeç (g. 1978), actores
- Anna Bornhoff (g. 1981), chwaraewr pel-droed
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Hamm. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Tachwedd 2024.
