Franz Ferdinand

Oddi ar Wicipedia
Franz Ferdinand
Ganwyd18 Rhagfyr 1863 Edit this on Wikidata
Graz Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd18 Rhagfyr 1863 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mehefin 1914 Edit this on Wikidata
Sarajevo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Awstria, Cisleithania Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddteyrn, Gay Edit this on Wikidata
TadArchddug Karl Ludwig o Awstria Edit this on Wikidata
MamMaria Annunciata o'r Ddau Sicilia Edit this on Wikidata
PriodSophie, Duchess of Hohenberg Edit this on Wikidata
PlantPrincess Sophie of Hohenberg, Prince Maximilian, 1st Duke of Hohenberg, Prince Ernst of Hohenberg, stillborn son von Hohenberg Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Hapsbwrg-Lorraine Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Uwch Groes Urdd Maria Theresa, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Knight Grand Cross of the Order of the White Eagle, Grand Cross of the Imperial Order of Leopold, Urdd yr Eryr Du, Urdd Sant Andreas, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, knight of the Order of Saints Maurice and Lazarus, Urdd y Goron Haearn (Awstria), Urdd Sant Steffan o Hwngari, Order of Maria Theresa I Edit this on Wikidata
llofnod
Archddug Franz Ferdinand (dde) gyda'i deulu.

Franz Ferdinand (18 Rhagfyr 186328 Mehefin 1914) oedd Archddug Awstria, Tywysog Ymerodrol Awstria, Tywysog Brenhinol Hwngari a Bohemia, o 1896 hyd ei farwolaeth, olynydd etifedd Gorsedd Awstro-Hwngariaidd. Hyrddiodd ei fradlofruddiaeth yn Sarajevo datganiad rhyfel Awstria. Achosodd hyn i'r gwledydd a oedd mewn undeb ag Awstria a Serbia, ddatgan rhyfel yn erbyn ei gilydd, gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.[1][2]

Dyddiau Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Franz Ferdinand (Enw llawn: Franz Ferdinand Karl Ludwig Josef von Habsburg-Lothringen), yn Graz, Awstria, mab hynaf Archddug Karl Ludwig Awstria (brawd ieungaf yr Ymerawdrwr Franz Joseph a Maximilian I Mexico) a'i ail wraig, y Dywysoges Maria Annunciata o'r ddau Sicilia. Pan oedd ond deuddeg oed, bu farw ei gefnder y Dug Francis V Modena, gan enwi Franz Ferdinand yn olynydd ar yr amod ei fod yn ategu'r enw Este at enw'i hun. Felly daeth Franz Ferdinand yn Archddug ac un o'r dynion cyfoethocaf yn Awstria.

Pan fe'i ganed, doedd dim rheswm i gredu buasai Franz Ferdinand erioed yn dod yn olynydd i'r orsedd Awstro-Hwngariaidd. Cafod yr addysg arferol lym a roddwyd i bob Archddug, gyda phwyslais ar hanes a chymeriad moesol. Rhwng 1876 a 1885, ei athro oedd yr hanesydd Onno Klopp. Yn 1883, aeth Franz Ferdinand i'r Fyddin yn y rheng trydydd is-gapten.

Datblygodd Franz Ferdinand ddau ddiddordeb fel dyn ifanc, sef teithio a hela. Mae amcan iddo saethu tua 5,000 o geirw dros ei oes. Yn 1883, ymwelodd â'r Eidal am y tro cyntaf i weld yr eiddo a adawyd iddo gan y Dug Francis V Modena. Yn 1885, ymwelodd â'r Aifft, Palesteina, Syria, a Thwrci. Yn 1889, ymwelodd â'r Almaen.

Newidiodd ei fywyd yn ddramatig yn 1889. Lladdodd Rudolf, Tywysog y Goron ei hun yn ei borthdy hela yn Mayerling, gan achosi i dad Franz Ferdinand, Archddug Karl Ludwig, ddod yn olynydd cyntaf i'r orsedd. O hyn ymlaen, paratowyd Franz Ferdinand i’w olynu.

Hynafiaid[golygu | golygu cod]

Tair Cenhedlaeth Hynafiaid Franz Ferdinand
Archddug Franz Ferdinand Awstria Tad:
Archddug Carl Ludwig, Awstria
Taid Tadol:
Archddug Franz Karl, Awstria
Hen-daid Tadol:
Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd, Francis II
Hen-nain Tadol:
Maria Teresa o'r Ddau Sicilia
Nain Tadol:
Tywysoges Sophie, Bayern
Hen-daid Tadol:
Maximilian I Joseph, Bayern
Hen-nain Tadol:
Caroline o Baden
Mam:
Maria Annunciata o'r Ddau Sicilia
Taid Mamol:
Ferdinand II o'r Ddau Sicilia
Hen-daid Mamol:
Ferdinand I o'r Ddau Sicilia
Hen-Nain Mamol:
Marie Caroline, Awstria
Nain Mamol:
Maria Theresa, Awstria
Hen-daid Mamol:
Archddug Charles, Dug Teschen
Hen-Nain Mamol:
Tywysoges Henrietta, Nassau-Weilburg

Priodi a theulu[golygu | golygu cod]

Yn 1895 cyfarfod Franz Ferdinand ag Iarlles Sophie Chotek mewn dawns yn Praha. I fod yn bartner priodi cymwys ar gyfer aelod o'r teulu Habsburg, roedd rhaid bod yn aelod o un o'r breninliniau a oedd yn teyrnasu neu a oedd yn teyrnasu gynt yn Ewrop. Nid oedd y teulu Choteks yn un o'r teuluoedd rhain, er bod Tywysoges Baden, Hohenzollern-Hechingen, a Liechtenstein yn un o'u hynafiaid mamol. Roedd Sophie yn lady-in-waiting i'r Archdduges Isabella, gwraig Archddug Friedrich, Dug Teschen. Dechreuodd Franz Ferdinand ymweld â Thŷ'r Archddug Friedrich yn Pressburg (rŵan Bratislava). Ysgrifennodd Sophie at Franz Ferdinand yn ystod ei adferiad o'r diciâu pan aeth i ynys Lošinj ym Môr Adria. Cadwasant eu perthynas yn gyfrinach am dros ddwy flynedd.

Cymerodd Archdduges Isabella yn ganiataol fod Franz Ferdinand wedi ymserchu ag un o'i merched. Ond yn 1898, gadawodd ei oriawr ar lys tennis yn ei chartref. Agorodd yr oriawr, gan ddisgwyl gweld llun o un o'i merched yno; yn hytrach, darganfu lun o Sophie. Diswyddwyd Sophie yn syth bin.

Gwrthododd Franz Ferdinand ystyried priodi unrhyw un arall. Ceisiodd Pab Leo XIII, Niclas II, tsar Rwsia, a Wilhelm II, ymerawdwr yr Almaen wneud cynrychiolaethau ar ran Franz Ferdinand i'r Ymerawdwr Franz Joseph I, ymerawdwr Awstria, gan ddadlau fod y ddadl rhwng Franz Joseph a Franz Ferdinand yn tanseilio sefydlogrwydd y frenhiniaeth.

O'r diwedd, yn 1899, cytunodd yr Ymerawdwr Franz Joseph i roi caniatâd i Franz Ferdinand i briodi Sophie, ar yr amod y buasai'r briodas yn un morganatig ac na fyddai gan eu unrhyw hiliogaethau hawliau olynyddol i'r orsedd. Ni fuasai Sophie yn rhannu rheng ei gŵr, ei deitl, flaenoriaethau na'i freintiau; ac felly, ni fuasai'n cael ymddangos yn gyhoeddus wrth ei ochr. Ni fuasai'n cael teithio yn y cerbyd brenhinol, nac eistedd yn y blwch brenhinol.

Priodasant ar 1 Gorffennaf 1900, yn Reichstadt (rŵan Zákupy) yn Bohemia; did fynychodd Franz Joseph â'r digwyddiad, nac unrhyw Archddug arall, gan gynnwys brodyr Franz Ferdinand. Yr unig aelodau o'r teulu ymerodrol o oedd yn bresennol oedd llysfam Franz Ferdinand, Maria Theresia, a'i dwy ferch. Wedi priodi, cafodd Sophie'r teitl Tywysoges Hohenberg (Fürstin von Hohenberg) gyda'r steil Eich Mawrhydi Tangnefeddus (Ihre Durchlaucht). Ym 1909, cafodd y teitl uwch Duges Hohenberg (Herzogin von Hohenberg) gyda'r steil Eich Mawrhydi (Ihre Hoheit). Cododd hyn ei statws cryn dipyn, ond roedd hi'n dal i gymryd blaenoriaeth yn y llys o flaen yr archddugesau eraill. Pryd bynnag y gofynnwyd gan achlysur i'r cwpl fynychu gydag aelodau eraill o'r teulu brenhinol, gorfodwyd i Sophie sefyll yn bell i lawr y llinell o ran pwysigrwydd, ar wahân i'w gŵr.

Plant Franz Ferdinand:

  • Tywysoges Sophie von Hohenberg (1901-1990), priododd Iarll Friedrich von Nostitz-Rieneck (1891-1973)
  • Maximilian, Dug of Hohenberg (1902-1962), priododd Iarlles Elisabeth von Waldburg zu Wolfegg und Waldsee (1904-1993)
  • Tywysog Ernst von Hohenberg (1904-1954), priododd Marie-Therese Wood (1910-1985)
  • Mab marw-anedig (1908)

Bradlofruddiaeth[golygu | golygu cod]

car Gräf & Stift o 1911 yr oedd Archddug Franz Ferdinand ynddo pan gafodd ei saethu.

Ar 28 Mehefin, 1914, tua 11:00 y bore, lladdwyd Franz Ferdinand a'i wraig yn Sarajevo, prifddinas talaith Awstro-Hwngariaidd Bosnia-Hertsegofina, gan Gavrilo Princip, aelod o'r symudiad Bosnia Ifanc ac un o saith o fradlofruddiaethau a drefnwyd gan y Black Hand (Crna Ruka). Adnabyddir y digwyddiad fel Y Fradlofruddiaeth yn Sarajevo, a hyn achosodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymosodwyd ar Franz a Sophie gynt pan daflwyd bom i’w car. Methodd honno, ond anafwyd nifer o ddinasyddion. Mynnodd Franz Ferdinand a Sophie ymweld â'r rhai a oedd wedi eu hanafu yn yr ysbyty. Mewn canlyniad, gwelodd Princip hwy a saethodd Sophie, a fu farw'n syth. Saethwyd Franz Ferdinand yn ei wythïen yddfol' a chymerodd sawl munud i farw. Cyfrannodd y bradlofruddiaethau, ynghyd â'r ras arfau, cenedlaetholdeb a'r system undebau i ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a ddechreuodd ond deufis wedi marwolaeth Franz Ferdinand, gyda datganiad rhyfel Awstria-Hwngari yn erbyn Serbia.

Claddwyd Franz Ferdinand a'i wraig Sophie yng Nghastell Artstetten, Awstria.

Gall disgrifiad manwl o'r saethu ei ganfod yn y llyfr 'Sarajevo' gan Joachim Remak [3]

...one bullet pierced Franz Ferdinand's neck while the other pierced Sophie's abdomen.....As the car was reversing (to go back to the Governor's residence because the entourage thought the Imperial couple were unhurt) a thin streak of blod shot from the Archddug's mouth onto Count Harrach's right cheek (he was standing on the car's running board). Harrach drew out a handkerchief to still the gushing blod. The Duchess, seeing this, called: "For Heaven's sake! What happened to you?" and sank from her seat, her face falling between her husband's knees.

Harrach and Potoriek...thought she had fainted...only her husband seemed to have ân instinct fôr what was happening. Turning to his wife despite the bullet in his neck, Franz Ferdinand pleaded: " Sopherl! Sopherl! Sterbe nicht! Bleibe am Leben fur unsere Kinder! - Sophie dear! Don't die! Stay alive fôr our children!" Having said this,he seemed to sag down himself. His plumed hat...fel of; many of its green feathers were found all over the car floor. Count Harrach seized the Archddug by the uniform collar to hold him up. He asked "Leiden Eure Kaiserliche Hoheit sehr? - Is Your Imperial Highness suffering very badly?" "Es ist nichts - It is nothing" said the Archddug in a weak but audible voice. He seemed to be losing consciousness, but, his voice growing steadily weaker, he repeated the phrase perhaps six or seven times more.

A rattle began to issue from his throat, which subsided as the car drew in front of the Konak (Town Hall).

(Despite several doctors' efforts, the Archddug died shortly after being caried into the building while his beloved wife was almost certainly dead from internal bleeding before the motorcade reached the Konak.) - Les Gillard

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Teitl: World War I Cyhoeddwyr: Mariner Books Awdur: S.L.A. Marshall Tudalen: 1 ISBN 0618056866 Blwyddyn: 2001
  2. Teitl: First World War Cyhoeddwyr: Vintage Tudalen: 48 ISBN 0375700455 Blwyddyn: 2000 Awdur: John Keegan
  3. Remak, Joachim. "Sarajevo" (Wiedenfeld & Nicolson, 1959) (tudalennau 137 - 142)

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]