Habsburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Habichtsburg, a roddodd ei enw i deulu'r Habsburg

Tylwyth sydd wedi bod o bwysigrwydd mawr yn hanes Ewrop yw'r Habsburg. Roedd y teulu yn wreiddiol o'r Swistir, a chafodd ei enw o'r Habichtsburg yn Aargau. Bu aelodau o dylwyth yr Habsburg yn teyrnasu am ganrifoedd dros Awstria, Bohemia a Hwngari. O 1438 hyd 1806, roedd bron pob Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn aelod o'r teulu Habsburg. Yn y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, roedd aelodau o'r tylwyth yn rheoli Sbaen a Portiwgal, ac yn y 19eg ganrif yn rheoli rhannau o ogledd yr Eidal.

Mae'r teulu yn parhau, a rhwng 1979 a 1999 roedd Otto von Habsburg yn un o aelodau Senedd Ewrop dros yr Almaen. Yn 1961, roedd wedi ymwadu'n swyddogol a'i hawl ar orsedd Awstria.