Joey Jones

Oddi ar Wicipedia
Joey Jones
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJoseph Patrick Jones
Dyddiad geni (1955-03-04) 4 Mawrth 1955 (69 oed)
Man geniBangor, Cymru
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1973–1975Wrecsam98(2)
1975–1978Lerpwl72(3)
1978–1982Wrecsam146(6)
1982–1985Chelsea78(2)
1985–1987Huddersfield Town68(3)
1987–1992Wrecsam132(11)
Cyfanswm594(27)
Tîm Cenedlaethol
Cymru d234(0)
1975–1986Cymru[1]72(1)
Timau a Reolwyd
2001Wrecsam
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru a chlybiau Lerpwl a Wrecsam ydy Joey Jones (ganwyd Joseph Patrick Jones ar 4 Mawrth 1955 ym Mangor, Gwynedd).[2] Jones oedd y Cymro cyntaf i ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop pan oedd yn aelod o dîm Lerpwl drechodd Borussia Mönchengladbach ym 1977.[3]

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod]

Wrecsam[golygu | golygu cod]

Ymunodd Jones â Wrecsam ym 1971 gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn erbyn Caer yng Nghwpan Cymru.[4] Er i Wrecsam golli'r gêm, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair yn erbyn Rotherham United yn y gêm nesaf.[5]

Aeth Jones ymlaen i fod yn aelod allweddol o’r tîm gyrhaeddodd rownd yr wyth olaf o Gwpan FA Lloegr am y tro cyntaf yn hanes Wrecsam ym 1973-74 a llwyddodd i ennill Cwpan Cymru ym 1974-75 wrth i Wrecsam drechu Caerdydd yn y rownd derfynol.[4][5]

Lerpwl[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr haf ym 1975 cafodd Jones ei brynnu gan Lerpwl am £110,000[4][6] a gwaneth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Queens Park Rangers yng ngêm agoriadol tymor 1975-76[7]. Er na llwyddodd i wneud ei farc yn ystod ei dymor cyntaf, llwyddodd i ddod yn aelod allweddol o'r tîm ar gyfer tymor 1975-76 wrth i Lerpwl ennill Cynghrair Lloegr, Cwpan Pencampwyr Ewrop a chyrraedd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr.

Er ei lwyddiant ym 1976-77, roedd Jones yn ei chael yn anodd i gadw ei le yn y tîm y tymor canlynol. Roedd yn eilydd yn rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop yn erbyn Club Brugge yn Stadiwm Wembley a dychwelodd i Wrecsam yn ystod haf 1978 ar ôl gwneud 100 o ymddangosiadau dros Lerpwl.[6]

Wrecsam[golygu | golygu cod]

Dychwelodd i Wrecsam ar gyfer tymor 1978-79 am £210,000, ffi sy'n parhau i fod yn record i'r clwb.[5]

Chelsea[golygu | golygu cod]

Wedi pedwar tymor gyda Wrecsam, cafodd Jones ei brynnu gan Chelsea am £34,000 ym 1982 gan ailymuno â chyn reolwr Wrecsam, John Neal yn Stamford Bridge. Roedd yn rhan o'r tîm lwyddodd i osgoi disgyn i'r Drydedd Adran ar ddiwrnod olaf y tymor cyn sicrhau pencampwriaeth yr Ail Adran a dyrchafiad i'r Adran Gyntaf yn nhymor 1983-84. Ond wedi tymor yn y brif adran cafodd Jones ei werthu i Huddersfield Town am £35,000 yn Awst 1985.[8]

Huddersfield a Wrecsam[golygu | golygu cod]

Treuliodd Jones dau dymor gyda Huddersfield, a cafodd ei enwebu'n Chwaraewr y Tymor gan y cefnogwyr yn ystod ei dymor cyntaf.

Dychwelodd i Wrecsam ym 1987 a cafodd ei benodi'n chwaraewr/hyfforddwr y clwb pan benodwyd Brian Flynn yn rheolwr yn Rhagfyr 1989. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o chwarae pêl-droed ym Mawrth 1992.[5]

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Awstria ar Y Cae Ras, Wrecsam yn ystod gemau rhagbrofol Euro 76[9]. Llwyddodd Jones i dorri record Ivor Allchurch am y nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad wrth ennill cap rhif 69 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym 1986[10][11].

Aeth ymlaen i ennill 72 o gapiau dros Gymru[12][13] - record oedd yn sefyll hyd nes i Peter Nicholas ennill cap rhif 73 yn 1991[13][14]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Wrecsam
Lerpwl
Chelsea

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Wales – Record International Players". RSSSF.com.
  2. Jones, Joey (2005). Oh Joey, Joey!. JohnBlake. t. 2. ISBN 9 781844 541355.
  3. "Joey Jones: Wales' first European Cup winner". BBC Sport. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. 4.0 4.1 4.2 "Heddiw Mewn Hanes: Mawrth 4". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 "Hall of Fame". Wrexham AFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-16. Cyrchwyd 2015-07-22. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. 6.0 6.1 "Profile: Joey Jones". LFChistory. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "1975-76 QPR v Liverpool". 11v11.
  8. "Chelsea Sporting Heroes: Joey Jones". Sporting-Heroes.net.
  9. "1975: Wales v Austria". eu-football.info. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Heddiw Mewn Hanes: Mai 22". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "1986: Rep.Ireland v Wales". eu-football.info. Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "1986: Canada v Wales". eu-football.info. Unknown parameter |published= ignored (help)
  13. 13.0 13.1 "Wales - Record International Players". RSSSF. Text "published-rsssf.com " ignored (help)
  14. "1991: Wales v Luxembourg". eu-football.info. Unknown parameter |published= ignored (help)