Brwsel

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brussels)
Brwsel
Mathardal fetropolitan Edit this on Wikidata
LL-Q150 (fra)-Fhala.K-Bruxelles.wav, Nl-Brussel.ogg, Lb-Bréissel.ogg Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhanbarth Brwsel-Prifddinas, Brabant Fflandrysaidd, Brabant Walonaidd Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Belg Gwlad Belg
Uwch y môr13 metr Edit this on Wikidata
GerllawCamlas Brussels–Charleroi, Camlas Brussels–Scheldt Maritime, Senne Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.8467°N 4.3525°E Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Gwlad Belg yw Brwsel (Bruxelles yn Ffrangeg, Brussel yn Iseldireg). Mae'r dref yng nghanolbarth Gwlad Belg. Mae hi'n brifddinas Fflandrys, ac yn ganolfan ei hardal weinyddol ddwyieithog ei hun, "Rhanbarth Brwsel-Prifddinas", sef Dinas Brwsel (Bruxelles-Ville neu Ville de Bruxelles yn Ffrangeg, de Stad Brussel yn Iseldireg). O'r cyfan, mae 19 o fwrdeistrefi yn ardal Brwsel-Prifddinas.

Mae gan ardal Brwsel-Prifddinas yr un statws â Fflandrys a Walonia, ond mae hi wedi'i hamgylchynu gan Fflandrys.

Sefydlwyd llywodraeth a gweinyddiaeth ym Mrwsel ar ôl sefydlu Senedd Fflandrys (y 'Vlaamse Raad' y newidiwyd ei henw i 'Vlaams Parlement').

Lleolir pencadlysoedd dau o brif sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, sef y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Gweinidogion Ewrop. Ac er fod y Senedd Ewropeaidd yn cyfarfod yn Strasbwrg, cynhelir nifer o gyfarfodydd y Senedd, a rhai pwyllgorau, ym Mrwsel hefyd.

Mae pencadlysoedd NATO ac Undeb Gorllewin Ewrop (WEU) ym Mrwsel.

Siaredir Iseldireg yng ngogledd Gwlad Belg a Ffrangeg yn y de. Mae ardal Brwsel yn ddwyieithog yn swyddogol, ond mae mwyafrif ei thrigolion yn siarad Ffrangeg. Yn ôl astudiaeth a wnaed yn 2001 mae'r sefyllfa fel a ganlyn:

  • 51% o boblogaeth Brwsel yn siarad Ffrangeg fel unig famiaith;
  • 8.5% yn siarad Iseldireg fel unig famiaith;
  • 10.2% yn ddwyieithog o oedran cynnar;
  • 9.1% o siaradwyr uniaith yn dysgu'r iaith arall pan yn hŷn;
  • 19.8% yn siarad Ffrangeg gydag iaith arall heblaw Iseldireg.
Neuadd y ddinas yn y Grote Markt
Pont fwaog y Dathlu


Bwrdeistrefi[golygu | golygu cod]

1
2
3
4
5
6
7
8
9
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
Y 19 bwrdeistref y Rhanbarth Brwsel-Prifddinas
  1. Anderlecht
  2. Dinas Brwsel (Iseldireg: Stad Brussel; Ffrangeg: Ville de Bruxelles)
  3. Elsene (Ffrangeg: Ixelles)
  4. Etterbeek
  5. Evere
  6. Ganshoren
  7. Jette
  8. Koekelberg
  9. Molenbeek-Sant-Siôr (Iseldireg: Sint-Jans-Molenbeek; Ffrangeg: Molenbeek-Saint-Jean)
  10. Oudergem (Ffrangeg: Auderghem)
  11. Santes-Agatha-Berchem (Iseldireg: Sint-Agatha-Berchem; (Ffrangeg: Berchem-Sainte-Agathe)
  12. Sant Giles (Iseldireg: Sint-Gillis; Ffrangeg: Saint-Gilles)
  13. Sant-Iwseg-ten-Node (Iseldireg: Sint-Joost-ten-Node; Ffrangeg: Saint-Josse-ten-Noode)
  14. Schaarbeek (Ffrangeg: Schaerbeek)
  15. Ukkel (Ffrangeg: Uccle)
  16. Vorst (Ffrangeg: Forest)
  17. Watermaal-Bosvoorde (Ffrangeg: Watermael-Boitsfort)
  18. Woluwe-Sant-Lambert (Iseldireg: Sint-Lambrechts-Woluwe; Ffrangeg: Woluwe-Saint-Lambert)
  19. Woluwe-Sant-Pedr (Iseldireg: Sint-Pieters-Woluwe; Ffrangeg: Woluwe-Saint-Pierre)


Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Amgueddfa Magritte
  • Arc du Cinquantenaire
  • Grote Markt
  • Manneken Pis
  • Palais de Justice
  • Stadiwm Brenin Baudouin
  • Theatr La Monnaie
  • Université libre de Bruxelles (prifysgol)
  • Vrije Universiteit Brussel (prifysgol)
  • Yr Atomium

Trafnidiaeth Cyhoeddus[golygu | golygu cod]

Mae'r MIVB (yn Ffrangeg y STIB) yn rhedeg bysiau, tramiau, cyn-metro a metro yn y ddinas. Mae'r NMBS (yn Ffrangeg yr SNCB) yn rhedeg trênau o'r ddinas i lleoedd arall. Yr Orsaf y De (Zuidstation neu Gare du Midi) yn ganolbwynt y rhwydwaith trafnidiaeth, mae trênau Eurostar a Thalys hefyd yn rhedeg o'r Orsaf y De, i Lundain, Amsterdam, Lille a Pharis.

Enwogion o Frwsel[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Belg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.