CTB v News Group Newspapers

Oddi ar Wicipedia
CTB v News Group Newspapers
Enghraifft o'r canlynolachos gyfreithiol Edit this on Wikidata
Daeth i ben16 Mai 2011 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Achos gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig rhwng CTB (pêl-droediwr) a'r diffynyddion News Group Newspapers Limited ac Imogen Thomas yw CTB v News Group Newspapers.

Ar 14 Ebrill 2011, rhoddodd Mr Ustus Eady waharddeb dros dro er mwyn atal y pêl-droediwr rhag cael ei enwi gan gyfryngau yn y DU, a chafodd ei hestynnu ar 21 Ebrill 2011. Bwriad y waharddeb oedd i atal manylion yr achos – perthynas rhwng Ms Thomas a'r pêl-droediwr CTB y tu allan i'w briodas – o gael eu cyhoeddi yn The Sun.[1] Seilir dyfarniad y llys ar Erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n sicrháu hawl unigolyn i breifatrwydd.

Wedi i fanylion y gorchymyn ffrwyno gael eu cyhoeddi ar Twitter, bu trafodaeth eang yn y DU ac yng nghyfryngau rhyngwladol ar bwnc gwaharddebau a sut y gellir eu gorfodi mewn oes gwefannau cyfryngau cymdeithasol.[2]

Ar 23 Mai cafodd Ryan Giggs ei enwi gan John Hemming, AS o'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn Nhŷ'r Cyffredin fel y pêl-droediwr yn yr achos.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) CTB v News Group Newspapers Ltd & Anor [2011] EWHC 1232 (QB) (16 Mai 2011), Yr Uchel Lys (Cymru a Lloegr).
  2. (Saesneg) Brito, Jerry (21 Mai 2011). Twitter's Super-Duper U.K. Censorship Trouble. TIME.
  3. (Saesneg) Injunctions debate: MP names footballer as Ryan Giggs. BBC (23 Mai 2011).