Dannie Abse
Dannie Abse | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1923 Caerdydd |
Bu farw | 28 Medi 2014 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, meddyg ac awdur |
Priod | Joan Abse |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Cholmondeley, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Gwefan | http://www.dannieabse.com/ |
Bardd yn yr iaith Saesneg, meddyg ac un o awduron cyfoes mwyaf adnabyddus Cymru oedd Daniel Abse CBE neu Dannie Abse (22 Medi 1923 – 28 Medi 2014).[1][2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Abse yn 161 Ffordd yr Eglwyswen, Gabalfa, Caerdydd yr ifancaf o bedwar plentyn i Rudolf Abse, perchennog sinema, a Kate, (née Shepherd) ei wraig. Roedd ei frawd, Leo Abse, yn Aelod Seneddol Pont-y-pŵl a Thorfaen. Roedd ei frawd Wilfred Abse yn seiciatrydd amlwg yn ymarfer yn yr Unol Daleithiau.[3]
Er bod y teulu yn un Iddewig mynychodd Abse ysgol Gatholig Sant Illtyd, Caerdydd. Wedi'r ysgol bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd i Lundain i astudio meddygaeth yng Ngholeg y Brenin.
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd Abse a Joan Mercer ym 1951. Roedd Joan Abse yn hanesydd ac awdur nifer o lyfrau gan gynnwys The Music Lover's Literary Companion (1988) a Voices in the Gallery (1986), a ysgrifennwyd ar y cyd a'i gŵr.[4] Bu iddynt dwy ferch ac un mab. Bu farw Joan mewn damwain car ar yr M4 yn 2005.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyflawnodd Abse ei Wasanaeth Cenedlaethol fel meddyg yn yr Awyrlu Brenhinol.
Wedi ymadael a'r awyrlu bu'n gweithio fel meddyg a oedd yn arbenigo yn anhwylderau'r frest. Parhaodd i weithio fel meddyg hyd 1989, ac wedi ymddeol rhoddodd ei amser i ysgrifennu, perfformio a golygu.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- After Every Green Thing (1949)
- Poems, Golders Green (1962)
- Funland and Other Poems (1973)
- One-legged on Ice (1983)
- Ask the Bloody Horse (1986)
- White Coat, Purple Coat: Collected Poems 1948-1988 (1989)
- Be seated, thou: poems 1989-1998 (1999)
- Running Late (2006)
- New and Collected Poems (2008)
Drama
[golygu | golygu cod]- The Dogs of Pavlov (1973)
- The View from Row G (1990)
- Speak, Old Parrot (2013)
Hunangofiant
[golygu | golygu cod]Eraill
[golygu | golygu cod]- Ash on a Young Man's Sleeve (1954)
- Some Corner of an English Field (1956)
- A Poet in the Family
- The Presence (2007)
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Abse yn Llundain ar 28 Medi 2014. Roedd yn gefnogwr hirdymor i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a chafodd ei farwolaeth ei nodi gan ffotograff ac erthygl yn rhaglen y clwb a chyhoeddiad hanner-amser yn y gêm gartref gyntaf ar ôl iddo farw. Plannwyd coeden er anrhydedd iddo yng ngardd goffa'r clwb yng ngwanwyn 2015.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Dannie Abse obituary. The Daily Telegraph (28 Medi 2014). Adalwyd ar 28 Medi 2014.
- ↑ Marwolaeth Dannie Abse. BBC Cymru (28 Medi 2014). Adalwyd ar 28 Medi 2014.
- ↑ Curtis, T. (2018, February 15). Abse, Daniel (Dannie) (1923–2014), physician, poet, and author. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 14 Mawrth 2019
- ↑ Independent 17 Gorffennaf 2005 Obituaries -Joan Abse Art historian[dolen farw] adalwyd 14 Mawrth 2019
- ↑ Wales Online 4 MAWRTH 2015 Cardiff City FC memorial for acclaimed author and Bluebirds fan Dannie Abse adalwyd 14 Mawrth 2019