Philip Seymour Hoffman

Oddi ar Wicipedia
Philip Seymour Hoffman
Ganwyd23 Gorffennaf 1967 Edit this on Wikidata
Fairport, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 2014 Edit this on Wikidata
o gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gelf Tisch, UDA
  • Ysgol Theatr 'Circle in the Square'
  • Fairport High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llais, actor cymeriad, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata
TadGordon Hoffman Edit this on Wikidata
MamMarilyn O'Connor Edit this on Wikidata
PartnerMimi O'Donnell Edit this on Wikidata
PlantCooper Hoffman Edit this on Wikidata
Gwobr/auDrama Desk Award for Outstanding Director of a Play, Drama Desk Award for Outstanding Director of a Play, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Golden Globes, Volpi Cup for Best Actor, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan Edit this on Wikidata


Actor a chyfarwyddwr ffilm a llwyfan Americanaiddoedd Philip Seymour Hoffman (23 Gorffennaf 19672 Chwefror 2014).

Dechreuodd Hoffman ei yrfa actio proffesiynol ar y teledu ym 1991 a'r flwyddyn olynol dechreuodd actio mewn ffilmiau. Daeth yn adnabyddus yn sgîl yr ystod eang o gymeriadau a actiodd mewn rôl gefnogol mewn ffilmiau, a bu'n llwyddiannus ym myd y theatr hefyd. Cafodd ei enwebu am Wobr Tony am ei berfformiad yn True West (2000) a Long Day's Journey into Night (2003).

Enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau, Gwobr BAFTA am yr Actor Gorau mewn Prif Rôl, Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Ffilm Ddrama a Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am Berfformiad Eithriadol gan Actor Gwrywaidd mewn Prif Rôl am ei berfformiad fel Truman Capote yn Capote (2005). Canolmolwyd ei weithiau nesaf hefyd sef The Savages (2007) a Charlie Wilson's War (2007), ac fe'i enwebwyd am nifer o wobrau actio am ei waith yn y ffilm Doubt (2008).

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.